Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.E. Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

D. Phillips

5 – Cais Cynllunio W/33092 –  Addasu adeilad amaethyddol presennol yn breswylfa, ysgubor ar dir Cilherwydd, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, SA34 0LL

Yr Ymgeisydd

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/33367

Un tyrbin gwynt 100kw ynghyd ag isadeiledd cysylltiedig,

tir i'r gogledd o fferm Bryndu Isaf, Maes-y-bont, Sir Gaerfyrddin, SA14 7SS;

E/35108

Safle fferm newydd ynghyd ag adeiladau cysylltiedig a phwll slyri, tir a oedd gynt yn rhan o fferm Bodist Uchaf, Rhydaman;

 

-       Yn amodol ar Asesiad Effaith S?n.

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r datblygiad arfaethedig ac a ailbwysleisiai rhai o'r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roeddent yn cynnwys y canlynol:

 

·      Byddai'r pwll slyri o fewn 250 metr i eiddo'r gwrthwynebydd ond byddai eiddo'r ymgeisydd dros 500 metr i ffwrdd;

·      Gwerth preswylfeydd yn gostwng;

·      A oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i hen weithfeydd glo mewn ardal sy'n cael ei hystyried yn risg uchel?;

·      A yw'r pryderon ynghylch clymog Japan ar y safle wedi cael sylw?;

·      Byddai arogleuon, fermin, golau a s?n yn effeithio ar gymdogion;

·      Pryderon o ran lles anifeiliaid;

·      Maint a lleoliad - mae teuluoedd â phlant yn byw mewn 4 t? cyfagos;

·      Lleoliadau mwy addas yn nes at y fferm;

·      Pryderon y gallai gwrtaith hylif lygru nant sy'n agos at y datblygiad;

·      Mwy o dda byw yn creu mwy o s?n – a fyddai hyn yn bodloni'r ddeddfwriaeth o ran s?n?.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

E/36183

T? eco newydd, tir ger 'New House', Cil-y-cwm,

Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, SA20 0SS;

 

3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

E/35356

Gwella'r mynediad presennol i gae i hwyluso mynediad i safle Lleoliad Ardystiedig â 5 carafán, tir Brynhyfryd, Heol Talyllychau, Llandeilo, SA19 7HU;

 

RHESWM: Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i asesu gwelededda mynediad ar y safle/i'r safle.

 

Roedd y Pwyllgor, cyn penderfynu cynnal ymweliad safle, wedi cael sylw yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, a oedd yn ailbwysleisio rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

·         Troad cas anniogel oddi ar Heol Talyllychau lle bu sawl damwain, gan gynnwys rhai angheuol;

·         Un lle pasio yn unig sydd ar y ffordd un lôn i'r safle – ni fyddai ceir sy'n tynnu carafanau yn gallu bacio;

·         Nid oedd llwybr troed ar y ffordd un lôn, ond roedd yn cael ei defnyddio'n aml gan gerddwyr a marchogion a fyddai'n cael anawsterau wrth i gar neu garafán agosáu;

·         Mae bws ysgol wedi rhoi'r gorau i deithio ar hyd y ffordd oherwydd pryderon ynghylch diogelwch mewn perthynas â'r mynediad oddi ar Heol Talyllychau a'r ffordd un lôn;

·         Mae llwybr troed cyhoeddus ger y fynedfa wedi cael ei ddinistrio yn sgil y gwaith;

·         Mae'n gais ôl-weithredol ac mae'r berth a'r fynedfa'n gwbl wahanol i'r hyn yr oeddent yn flaenorol - mae'n rhy gymhleth ac mae'r berth wedi cael ei symud yn ôl;

·         Dim gwybodaeth am ddefnydd arfaethedig adeilad sydd wedi'i gynnwys yn y cais;

·         Gwelededd annigonol.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 912 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/36019

Newid defnydd o breswylfa C3 i d? amlfeddiannaeth defnydd C4 (5 unigolyn), 69 Panteg, Llanelli, SA15 3TE.

 

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1012 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

5.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/33092

Addasu adeilad amaethyddol presennol yn breswylfa, ysgubor ar dir Cilherwydd, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, SA34 0LL;

 

(NODER: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Phillips Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno)

 

5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

W/35041

 

 

T? fforddiadwy ar dir ger Taliaris, Maesycrugiau, Pencader, SA39 9DH;

 

RHESWM: Cael golwg ar safle'r cais.

 

Cafwyd sylw oedd yn cefnogi'r cais ar y sail bod yr ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf o ran bod angen lleol, ei fod wedi cael ac wedi rhoi sylw i gyngor cyn cynllunio, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law.

 

 

 

6.

COFNODION - 31AIN HYDREF 2017. pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Hydref, 2017.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau