Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, S.J.G. Gilasbey, A. James, B.D.J. Phillips a H.A.L. Evans [yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd].
|
|||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||||||||||
TREFNIADAU TRIN A GWAREDU GWASTRAFF YN Y DYFODOL PDF 303 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ynghylch trefniadau trin a gwaredu gwastraff yn y dyfodol a oedd yn cynnwys amlinelliad o'r cynnydd a wnaed ledled y Sir.
Nododd yr Aelodau bod gwasanaethau ailgylchu a gwastraff presennol y Cyngor yn cael eu darparu gan CWM Environmental. Sefydlwyd y cwmni ym 1997 yn Gwmni Gwaredu Gwastraff yr Awdurdod Lleol (LAWDC) ar gyfer y Cyngor. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2015 daeth contract pymtheg mlynedd y Cyngor gyda CWM i ben, a rhoddwyd estyniad pontio o dair blynedd i ymestyn y contract hyd at fis Mawrth 2018. Roedd y Cyngor bellach yn y camau olaf o ystyried ei opsiynau ar gyfer sefydlu ei drefniadau rheoli gwastraff yn y dyfodol.
Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r broses hyd yma ac yn cynnwys dadansoddiad manwl o'r arfarniad o ddewisiadau a gynhaliwyd ar lefel strategol. Nododd yr Aelodau fod yr arfarniad o'r dewisiadau wedi nodi nifer o fanteision o ran defnyddio dull Teckal i gaffael contractau trin gwastraff newydd y Cyngor. Ar sail canlyniadau'r arfarniad o ddewisiadau, datblygwyd achos busnes ar gyfer yr opsiwn a ffefrir. Roedd methodoleg yr achos busnes oedd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.
Roedd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wedi tynnu sylw'r Pwyllgor at y ffaith ers cynhyrchu'r adroddiad bod y rhan ynghylch Cynigion Llywodraethu wedi'i diweddaru i gynnwys yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fel rhan o'r aelodaeth arfaethedig ar gyfer Bwrdd Rhanddeiliaid y Cyngor. Yn ogystal, roedd yr aelodaeth arfaethedig ar gyfer Bwrdd y Cwmni Teckal wedi'i ddiweddaru i gynnwys 2 Gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol.
Fel y nodir yn yr adroddiad, esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Gwastraff y camau nesaf gan nodi yn ystod datblygu'r arfarniad o ddewisiadau a'r achos busnes, fod y cyngor wedi elwa ar gyngor technegol, cyfreithiol ac ariannol allanol ac i'r perwyl hwnnw, argymhellwyd symud tuag at y cam gweithredu ar gyfer y cwmni Teckal newydd.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
|
|||||||||||||||||||||
CYNLLUN GWASTRAFF GARDD PDF 260 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ynghylch y Cynllun Gwastraff Gardd. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r sefyllfa a'r canlyniadau o flwyddyn gyntaf y gwasanaeth o dalu am gasglu gwastraff gardd ar wahân ac yn nodi'r trefniadau a'r gweithrediadau'r ar gyfer 2018-19.
Nododd y Pwyllgor y cafwyd ymateb da i'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd gyda thua 2500 o geisiadau am finiau gydag 2400 o gwsmeriaid yn cofrestru ar gyfer y flwyddyn gyntaf o weithredu. Roedd y rhan fwyaf o'r cwsmeriaid wedi cofrestr ar-lein ac wedi elwa ar ostyngiad o 15%.
Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad manwl o weithrediad y flwyddyn gyntaf ynghyd â chynnig ar gyfer yr ail flwyddyn (2018/19).
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 dderbyn yr adroddiad ar y Cynllun Gwastraff Gardd; 6.2 nodi'r cynigion a nodir yn yr adroddiad. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf fel yr oeddynt ar 31 Hydref 2017, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18. Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol. I grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld gorwariant o £227k.
Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £10,982k o gymharu â chyllideb net weithredol o £11,651k gan roi amrywiant o £-669k.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR ARDALOEDD RHEOLI ANSAWDD AER PRESENNOL YN SIR GAERFYRDDIN PDF 163 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ardal Rheoli Ansawdd Aer presennol yn Sir Gaerfyrddin. Atgoffwyd yr Aelodau fod Deddf yr Amgylchedd 1995 yn datgan bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a rheoli'r ansawdd aer yn eu hardal.
Roedd yr adroddiad yn darparu'r wybodaeth fanwl ddiweddaraf i'r Pwyllgor am lefelau NO2 yn benodol yn nhref Llandeilo ac ardaloedd Caerfyrddin a Llanelli a oedd wedi gweld cynnydd yn lefelau NO2 dros y blynyddoedd diwethaf.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||
DEFNYDD O YNNI YN ADEILADAU ANNOMESTIG Y CYNGOR PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Pwyllgor, yn ystod ei gyfarfod ar 17 Tachwedd, 2017 wedi penderfynu derbyn adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o ynni [cofnod 10]. Mewn ymateb i gais derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y defnydd o ynni yn adeiladau annomestig y Cyngor a oedd hefyd yn cynnwys manylion am:-
· Mesuriadau Perfformiad · Rhaglenni Effeithlonrwydd Ynni · Rhaglen Adeiladu Tai Newydd · Cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy
Diolchodd y Pwyllgor i'r Swyddogion am gynhyrchu'r adroddiad eglur a llawn gwybodaeth.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr hyn oedd y targedau. Dywedodd y Pennaeth Eiddo nad oedd targedau wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd nac yn fewnol, fodd bynnag roedd y tîm yn rhagweithiol yn ei waith ac yn ymdrechu i fod ar flaen y gad, gan chwilio am ffyrdd o leihau ein defnydd o ynni ymhellach. Ychwanegodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy y byddai'n ystyried ac yn ymchwilio i unrhyw gyfleoedd i wella. Ychwanegodd y Swyddog Ynni Corfforaethol ei bod yn bwysig cofio bod mesurau effeithlonrwydd ynni, er efallai nad oeddent mor ddeniadol ag ynni adnewyddadwy, hefyd yn hanfodol.
· O ran y defnydd o drydan a chan ystyried y cyni ariannol presennol, gofynnwyd am sicrwydd bod y Cyngor yn cael y fargen orau bosibl. Sicrhaodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy yr aelodau fod yr holl drydan yn cael ei gaffael drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) a'i fod yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy ac yn cynnig y pris gorau posibl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi a derbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad yn cynnwys manylion am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a gododd o gyfarfodydd ers 2 Hydref 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cynghorwyd y Pwyllgor bod y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau, yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr, yn dilyn ystyried y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol a'r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Swyddfeydd, wedi penderfynu "gofyn i'r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd i graffu ar wariant Llwybr Beicio arfaethedig Dyffryn Tywi.”
Er mwyn i'r Pwyllgor ymgymryd â'r cais, gofynnwyd am adroddiad yn darparu gwybodaeth fanwl am y gwariant ar Lwybr Beicio arfaethedig Dyffryn Tywi a'i gyflwyno i'r cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gyflwyno adroddiad ar y gwariant ar Lwybr Beicio arfaethedig Dyffryn Tywi yn y cyfarfod nesaf.
|
|||||||||||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 70 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 2 Mawrth 2018 a rhoddwyd y cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.
Nododd yr Aelodau oherwydd camgymeriad gweinyddol, byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Buddsoddi mewn Diogelwch Ffyrdd, Priffyrdd a Throedffyrdd a oedd fod i gael ei hystyried yn ystod y cyfarfod hwn bellach yn cael ei dwyn gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
Oherwydd y nifer uchel o eitemau sydd wedi'u rhestru i'w hystyried yn y cyfarfod ar 2Mawrth 2018 ac er mwyn sicrhau bod yr Aelodau'n parhau i i ddarparu swyddogaeth graffu effeithiol, cynigiwyd trefnu cyfarfod Pwyllgor ychwanegol ym mis Chwefror 2018 a bod rhai eitemau ar y rhestr eitemau sydd ar y gweill yn cael eu hystyried.
PENDERFYNWYD YN
UNFRYDOL:-
12.1 nodi'r
rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y
cyfarfod nesaf ar 2 Mawrth 2018; 12.2 trefnu Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ychwanegol ym mis Chwefror 2018.
|
|||||||||||||||||||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y |
|||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2017, gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr, 2017 gan eu bod yn gywir.
|