Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Gwener, 24ain Tachwedd, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B.A.L. Roberts.

 

Bu i'r Cadeirydd ganmol ymdrechion diweddar Tia Hughes, croten 10 oed o Lanelli, wrth ymateb yn gyflym a galw am gymorth ar ôl gweld mwg yn dod o Fflatiau Granby yn Llanelli. Dywedodd y Cadeirydd fod yr Adran Tai bellach mewn cysylltiad ag unrhyw denantiaid yr effeithiwyd arnynt.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S. Matthews

7 – Cynllun Cenedlaethol Trwyddedu Landlordiaid ac Asiantiaid

Landlord

H. Shepardson

7 – Cynllun Cenedlaethol Trwyddedu Landlordiaid ac Asiantiaid

Ysgrifennydd Clwb Cymdeithasol ym Mhorth Tywyn sy'n gosod eiddo

A. Davies

7 – Cynllun Cenedlaethol Trwyddedu Landlordiaid ac Asiantiaid

Landlord

S.L. Davies

7 – Cynllun Cenedlaethol Trwyddedu Landlordiaid ac Asiantiaid

Mam yn landlord

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

SEFYDLU CWMNI TAI SY'N EIDDO I'R CYNGOR pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar gynigion gan y Cyngor ar gyfer sefydlu Cwmni Tai Lleol ym Mherchnogaeth y Cyngor (Y Cwmni) fel cyfrwng datblygu i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai yn Sir Gaerfyrddin a chynyddu'r cyflenwad o dai ychwanegol y mae angen mawr amdanynt, a hynny gan greu cyfleoedd am swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau, cefnogi'r gadwyn gyflenwi a chyflawni dyheadau adfywio'r Cyngor. Byddai'r Cwmni, pe bai'n cael ei sefydlu, hefyd yn ategu'r defnydd parhaus o adnoddau'r Cyfrif Refeniw Tai i gomisiynu tai newydd (lle'r oedd hi'n briodol gwneud hynny) a byddai hefyd yn cefnogi Ymrwymiad y Cyngor i Dai Fforddiadwy a wnaed ym mis Mawrth 2016 ar gyfer dewisiadau darparu tai eraill er mwyn cynyddu nifer y cartrefi yn y Sir.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r Cwmni yn berchen i'r Cyngor yn llawn, ac na fyddai unrhyw ran o stoc dai bresennol y Cyngor yn cael ei throsglwyddo (a fyddai'n parhau i gael ei rheoli a'i chynnal gan y Cyngor) na threfniadau TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau (Gwarchod Cyflogaeth)) y staff presennol.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn nodi'r trefniadau ar gyfer sefydlu'r Cwmni ac yn cynnwys saith argymhelliad i'w hystyried a'u cymeradwyo ganddo, ac, os yw'n briodol, gan y Bwrdd Gweithredol. Byddai'r trefniadau hynny'n cynnwys penodi pum cyfarwyddwr cwmni, paratoi cynllun busnes i'w gymeradwyo gan y Cyngor, ynghyd â chostau sefydlu cychwynnol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar rôl ddatblygu y cwmni arfaethedig, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'n gyfrwng i sicrhau datblygiad tai o safon dda yn Sir Gaerfyrddin, a hynny drwy amrywiaeth o ffyrdd/deiliadaethau er mwyn galluogi pobl leol i gael troed ar yr ysgol dai, ac y gallai, er enghraifft, gynnwys tai at ddibenion gwerthu, gosod, cyfranddaliadau, lesddaliadau, a rhentu i brynu. Byddai'r Cwmni ei hun ar wahân i'r Cyngor, a byddai pum cyfarwyddwr yn ei redeg, ac ni fyddai unrhyw aelodau o blith staff y Cyngor yn cael eu trosglwyddo.

I gychwyn byddai angen i'r Cwmni, cyn dechrau gweithredu, lunio gweithdrefn ddatblygu yn nodi ystod o weithdrefnau i sicrhau bod tai o safon yn cael eu darparu drwy drefniadau contractio gydag adeiladwyr lleol a mabwysiadu ei 'Sicrwydd Ansawdd' ei hun. Yn ail, byddai angen i'r Cwmni ddatblygu Cynllun Busnes ffurfiol, i'r Cyngor ei gymeradwyo, yn manylu ar y trefniadau cychwynnol mewn perthynas ag unrhyw dir/benthyciadau/staff y byddai'n eu cael gan y Cyngor o bosibl, a'r trefniadau ad-dalu.

·        Cyfeiriwyd at dudalen 7 yr adroddiad a phwynt 5 yn ymwneud â'r gymhareb cyflog i bris t? o 5:1 mewn rhannau o'r sir, gyda Chofrestr Dewis Tai y Cyngor yn cofnodi bod galw mawr am dai nad yw'n cael ei ateb, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle roedd gwerth eiddo yn uchel a'r cyflenwad yn gyfyngedig. Gofynnwyd am eglurhad ar sut y gallai'r cwmni newydd fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwnnw.

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod prinder tai yn y sector gwledig yn hynod ddifrifol, a bod y rhesymau dros hynny'n amrywio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYFLWYNO PROSES ‘GOSOD AR SAIL DEWIS’ AR GYFER TAI CYNGOR YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 272 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar y cynigion ar gyfer cyflwyno proses ‘Gosod ar Sail Dewis’ ar gyfer Tai Cyngor yn Sir Gaerfyrddin lle byddai'r Cyngor yn hysbysebu eiddo gwag yn agored ac yn gwahodd pobl ar y Gofrestr Dewis Tai i wneud cynnig am denantiaeth yr eiddo hyn, yn hytrach na'r polisi presennol o gynnig eiddo i ddarpar denantiaid. Ystyrid bod y broses newydd, pe bai'n cael ei mabwysiadu, yn fuddiol i'r tenantiaid a'r Cyngor o ran ei bod:

·        Yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas ag eiddo gwag;

·        Yn sicrhau bod ymgeiswyr a oedd wedi mynegi diddordeb mewn eiddo penodol eisiau cael y cartref yn hytrach na'u bod yn ei dderbyn ar y sail y byddent yn cael eu cosbi pe baent yn gwrthod,

·        Yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn yr eiddo ac yn aros am gyfnod hwy (a fyddai'n arwain at denantiaethau a chymunedau mwy cynaliadwy)

·        Yn darparu data cynllunio amser real i'r awdurdod ynghylch poblogrwydd/dymunoldeb ei gartrefi, a ddylai ddylanwadu ar y strategaeth rheoli asedau a'r ymrwymiad i dai fforddiadwy,

·        Yn lleihau'r amser y byddai'r staff yn ei dreulio yn nodi ymgeiswyr,

·        Yn lleihau nifer yr eiddo a wrthodwyd

·        Yn ategu rhaglen ‘ar-lein amdani’ y Cyngor.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi sut y byddai'r gwasanaeth newydd yn cael ei ddarparu, yn bennaf ar sail ddigidol drwy wasanaethau ar-lein y Cyngor, gan sicrhau hefyd bod modd i'r bobl fwyaf bregus a phobl eraill heb wasanaethau digidol gael mynediad i'r system a chyflwyno ceisiadau am eiddo.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cadarnhawyd y byddai Aelodau lleol yn derbyn rhestr wythnosol o'r eiddo oedd ar gael, ar sail debyg i'r rhestrau cynllunio wythnosol roeddent yn eu derbyn ar hyn o bryd.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar sut oedd eiddo yn cael ei ddyrannu os oedd nifer o geisiadau'n dod i law, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai (Cyngor a Dewisiadau) y byddai'r holl ddyraniadau'n cael eu gwneud yn unol â Pholisi Dyraniadau'r Cyngor.

·        Cyfeiriwyd at y datganiad yn yr adroddiad bod gan 83% o aelwydydd Sir Gaerfyrddin fynediad i'r rhyngrwyd. Gofynnwyd sut oedd y Cyngor yn bwriadu gwneud y rhestrau wythnosol ar gael i'r 17% arall.

Cyfeiriwyd y Pwyllgor gan Reolwr y Gwasanaethau Tai at yr adroddiad ysgrifenedig a fanylai ar amryw o opsiynau o ran hyn gan gynnwys hysbysebu'r rhestr yn llyfrgelloedd y Cyngor, canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid ac adeiladau cyhoeddus eraill. Byddai'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector a busnesau lleol i bwyso a mesur eu diddordeb mewn helpu i hyrwyddo'r cartrefi oedd ar gael e.e. siopau a swyddfeydd post lleol. Byddai pobl ddigartref yn cael cymorth drwy'r Gwasanaeth Cyngor ynghylch Tai. Yn ogystal, byddai'r system yn galluogi pobl agored i niwed, neu'r rheiny heb fynediad i'r rhyngrwyd, i enwebu rhywun i gyflwyno cais ar eu rhan.

·        Er bod croeso i'r cynigion i helpu'r sawl nad oeddent yn defnyddio'r rhyngrwyd i wneud cais, ceisiwyd sicrwydd y byddai'r Cyngor yn gallu parhau i roi cymorth i'r bobl hyn.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN CENEDLAETHOL TRWYDDEDU LANDLORDIAID AC ASIANTIAID pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr A. Davies, S.L. Davies, S. Matthews a H.B. Shepardson wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ond bu iddynt aros yn y cyfarfod tra rhoddwyd ystyriaeth iddi)

 

Cafodd y Pwyllgor, yn dilyn ei gyfarfod ym mis Medi 2016, adroddiad cynnydd ar gynllun cenedlaethol trwyddedu landlordiaid ac asiantiaid o dan ddarpariaethau Deddf Tai (Cymru) 2014, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i bob landlord ac asiant a reolai neu a osodai cartrefi yn y sector preifat yng Nghymru gael trwydded.

 

O ran Sir Gaerfyrddin, nododd y Pwyllgor mai'r cynnydd oedd:

1.     5,043 o landlordiaid wedi cofrestru 9,261 eiddo a oedd yn cynrychioli 82% o'r stoc breifat oedd ar rent,

2.     1,280 o landlordiaid wedi cael trwydded a 922 arall yn cael eu prosesu ar hyn o bryd gan Rhentu Doeth Cymru.

3.     189 o asiantiaid wedi cael trwydded

4.     43 o lythyrau rhybuddio wedi cael eu rhoi ac un hysbysiad cosb benodedig.

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cadarnhawyd nad oedd perchnogion ail gartrefi yng Nghymru yn destun gofynion y Ddeddfwriaeth ac nad oedd yn ofynnol iddynt gofrestru eu heiddo gyda Rhentu Doeth Cymru.

·        Soniwyd am nodau a dyheadau'r ddeddfwriaeth sef gwella safon y landlordiaid, a gofynnwyd a oedd hynny'n digwydd.

Cadarnhawyd mai nod y cynllun oedd gwella safon y landlordiaid neu gael gwared ar rai gwael gyda golwg ar sicrhau bod eiddo'r sector tai rhent yn cael eu rheoli'n dda. Fodd bynnag, gyda'r nod hwnnw mewn golwg, roedd yn rhaid derbyn mai 'landlordiaid damweiniol' oedd y rhan fwyaf o'r landlordiaid hynny, nad oeddent yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau efallai. Un o nodau eraill y ddeddfwriaeth newydd oedd cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r cyfrifoldebau hynny.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ac Adloniant ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Awst 2017. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £389k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £1,407k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £21k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at y gorwariant arfaethedig o £482k yn yr Is-adran Cynllunio, a oedd £40k yn fwy na'r hyn a adroddwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Hydref. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y rheswm dros y cynnydd hwnnw.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, gan nad oedd y Pennaeth Cynllunio yn bresennol yn y cyfarfod, byddai trefniadau'n cael eu gwneud i e-bostio'r wybodaeth i Aelodau'r Pwyllgor yn uniongyrchol.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar y tanwariant arfaethedig o £19k ar ddigartrefedd, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai (cyngor a dewisiadau) fod nifer o ffactorau'n gyfrifol am hynny. Yn gyntaf, roedd trefniadau rhagweithiol yr Adran ar gyfer atal digartrefedd wedi arwain at ostyngiad o 50% dros y pum mlynedd blaenorol. Yn ail, roedd yr Awdurdod yn cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparu tai i'r digartref.

·        Gan ymateb i bryderon ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol a'r potensial y gallai hynny olygu bod tenantiaid nad oeddent yn gallu talu eu rhent yn cael eu troi allan, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod adroddiad yn cael ei baratoi ar hyn o bryd am Gredyd Cynhwysol, i'w gyflwyno yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar y gorwariant o £56k mewn Taliadau Rhent, dywedwyd bod hynny'n gysylltiedig â gorgodi am dd?r yn achos rhai pobl oedd yn byw mewn tai gwarchod, gan fod D?r Cymru wedi cysylltu eu mesuryddion d?r i'r eiddo anghywir.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar y gorwariant o £45k ar Un Sir Gâr, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hynny'n ymwneud ag incwm rhent nas gwireddwyd o achos llety gwag a bod ymdrechion yn cael eu gwneud i'w osod.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am y gorwariant o £393k ar Addasiadau a gwaith mewn perthynas â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hyn wedi deillio o alw cynyddol am wasanaethau, a bod peth o'r gwaith hwnnw'n cynnwys gwneud estyniadau i eiddo. O ganlyniad i'r cynnydd hwnnw, roedd asesiad yn cael ei wneud ynghylch a ddylai darpariaeth ychwanegol ar gyfer gwaith o'r fath gael ei wneud yng Nghyfrif Busnes y Cyfrif Refeniw Tai.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 yn cael ei dderbyn.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 14 Rhagfyr, 2017, a thynnwyd ei sylw at nifer fawr yr eitemau oedd i'w cyflwyno yn y cyfarfod hwnnw.  O ganlyniad, gofynnwyd am gymeradwyo'r newidiadau awgrymedig canlynol i'r rhestr honno:

·        Bod yr adroddiadau ar Fforwm Lleol Cymru Gydnerth - Cynllun Busnes a'r Diweddariad Gwrthderfysgaeth yn cael eu haildrefnu i'w hystyried yng nghyfarfod mis Chwefror 2018;

·        Bod yr adroddiad am Ddeddf Tiroedd Comin 2006, a fyddai'n awr yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb ar gyfer gosod ffioedd a thaliadau, yn cael ei dynnu'n ôl.

Yn ychwanegol at yr adroddiad uchod, nododd y Pwyllgor fod copi wedi'i atodi er gwybodaeth o'i Flaenraglen Waith a Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau, yn amodol ar y newidiadau uchod, ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 14 Rhagfyr 2017.

 

 

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno adroddiad craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

11.

DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'i gyfarfodydd blaenorol.

 

Yn dilyn dosbarthu'r Agenda ar gyfer y cyfarfod, nodwyd bod y wybodaeth y gwnaed cais amdani yng Ngham CS006-17/18 am ddata ynghylch defnyddio ynni wedi cael ei rhoi i aelodau'r Pwyllgor a bod y cam hwnnw wedi cael ei gwblhau bellach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 5ED HYDREF 2017 pdf eicon PDF 336 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor, i'w mabwysiadu fel cofnod cywir, gofnodion ei gyfarfod ar 5 Hydref, 2017 a thynnwyd ei sylw at gamgymeriad sef bod y Cynghorydd Betsan Jones wedi ei chynnwys yn y rhestr o ymddiheuriadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar yr uchod, lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2017 gan eu bod yn gofnod cywir.