Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Dr J. Davidson (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) ac S. Moore (Y Prif Weithredwr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda)

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 31AIN AWST 2018 pdf eicon PDF 177 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 31 Awst 2018 gan eu bod yn gywir.

 

4.

Y DIWEDDARAF AM BROSIECT SEILWAITH DIGIDOL pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch cynnydd y Prosiect Seilwaith Digidol a'r tair elfen ohono sy'n ymwneud â Dyfarnu'r Tendr Seilwaith Digidol, y Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol a 5G yng Nghymru.

 

Nododd y Cyd-bwyllgor fod datblygiad Dyfarnu'r Tendr Seilwaith Digidol yn unol â'r amserlen ar hyn o bryd, a bod gwaith ar yr achos busnes yn mynd yn ei flaen. Disgwylir i'r gwaith o baratoi'r cynnig llawn ar gyfer y Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol, sy'n cael ei wneud ar y cyd rhwng CUBE Ultra Ltd a Dinas a Sir Abertawe, gael ei gwblhau cyn bo hir. Disgwylir iddo gael ei gyflwyno i'r Adran dros Ddiwylliant Digidol, y Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Ionawr 2019. Roedd datblygiad technoleg 5G (5ed Cenhedlaeth) yn cael sylw fel rhan o ymagwedd Cymru gyfan, a arweinir gan Innovation Point.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru, mewn cyfarfod diweddar gyda chynrychiolwyr Bargen Ddinesig Bae Abertawe, wedi cefnogi'r Prosiect Seilwaith Digidol a dweud eu bod am iddo gael ei ddatblygu cyn gynted â phosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y Prosiect Seilwaith Digidol.

 

5.

Y DIWEDDARAF AM BROSIECTAU'R FARGEN DDINESIG pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad diweddaru ynghylch y prosiectau lleol a rhanbarthol canlynol a ariennir gan y Fargen Ddinesig:-

 

·       Seilwaith Digidol

·       Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau;

·       Sgiliau a Thalent;

·       Yr Egin;

·       Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli

·       Campws Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli;

·       Cartrefi yn Orsafoedd P?er

·       Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau y Genhedlaeth Nesaf (CENGS);

·       Ffatri'r Dyfodol;

·       Gwyddoniaeth Dur;

·       Ardal Forol Doc Penfro

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y prosiectau.

 

6.

BLAENRHAGLEN GWAITH Y CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith awgrymedig ar gyfer 2018/19 a oedd yn sicrhau bod rhaglen waith gyfredol ar gael i gefnogi Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer 2018/19.

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU  SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION YMA  YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

8.

YR EGIN – CLWSTWR DIGIDOL CREADIGOL

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 7 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys yr achos busnes sy'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo, a oedd yn cynnwys amcangyfrifon cost dangosol, a gallai datgelu'r amcangyfrifon cost dangosol hynny cyn caffael contractwr gwaith beryglu gwaith y caffaelwr.

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar Brosiect Clwstwr Digidol Creadigol yr Egin ynghyd ag adborth yn ei gylch gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

8.1

Cymeradwyo cynllun busnes pum achos llawn Prosiect Clwstwr Digidol Creadigol yr Egin a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo.

8.2

Rhoi Pwerau Dirprwyedig i swyddogion wneud unrhyw fân newidiadau sydd eu hangen er mwyn cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

 

9.

ARDAL DDIGIDOL DINAS ABERTAWE A’R GLANNAU

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 7 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys yr achos busnes sy'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo, a oedd yn cynnwys amcangyfrifon cost dangosol, a gallai datgelu'r amcangyfrifon cost dangosol hynny cyn caffael contractwr gwaith beryglu gwaith y caffaelwr.

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch Prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau ynghyd ag adborth yn ei gylch gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

8.1

Cymeradwyo cynllun busnes pum achos llawn Prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo.

8.2

Rhoi Pwerau Dirprwyedig i swyddogion wneud unrhyw fân newidiadau sydd eu hangen er mwyn cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

 

10.

PENTREF GWYDDOR BYWYD A LLESIANT LLANELLI

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 7 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys yr achos busnes sy'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo, a oedd yn cynnwys amcangyfrifon cost dangosol, a gallai datgelu'r amcangyfrifon cost dangosol hynny cyn caffael contractwr gwaith beryglu gwaith y caffaelwr.

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar Brosiect y Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant ynghyd ag adborth yn ei gylch gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

8.1

Cymeradwyo cynllun busnes pum achos llawn Prosiect y Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo.

8.2

Rhoi Pwerau Dirprwyedig i swyddogion wneud unrhyw fân newidiadau sydd eu hangen er mwyn cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau