Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Abertawe), yr Athro Steve Wilks (Prifysgol Abertawe, Aelod Wrth Gefn), Mark James (Cyngor Sir Caerfyrddin), Ian Westley (Cyngor Sir Penfro) a Phil Roberts (Prifysgol Abertawe).

 

Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Athro Iwan Davies ar gael ei benodi'n Is-ganghellor Prifysgol Bangor ac i Wendy Walters ar gael ei phenodi'n Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Athro Andrew Davies ac i Mark James am eu cyfraniadau i'r Cyd-bwyllgor a chroesawodd i'r cyfarfod Judith Hardisty (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda),  Jack Straw (Cyngor Abertawe) a Steve Thomas (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gynt).

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 28AIN O FAWRTH 2019 pdf eicon PDF 178 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019 gan eu bod yn gywir.

4.

BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE - Y CYNNYDD YN SGIL YR ADRODDIADAU. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar gynnydd yr adolygiadau mewnol ac allanol, a oedd yn manylu ar dri argymhelliad.  O ran Argymhelliad 1 (Penodi Cyfarwyddwr Rhaglen) nodwyd y byddai'n rhaid i'r dyddiad cau a fwriadwyd sef Mai 2019 fod yn fwy hyblyg. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod cynigion manwl ynghylch gweithredu'r tri argymhelliad, a oedd wedi'u datblygu gan ymgynghori â'r pedwar Awdurdod Lleol, wedi eu nodi yn yr adroddiad atodedig. Gwnaed awgrymiadau pellach fod Cyfarwyddwr y Rhaglen yn atebol i'r Cyd-bwyllgor a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn cael ei lleoli yn Llanelli, gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu fel yr Awdurdod Cyflogi. Argymhellwyd mabwysiadu rhannu'r rolau statudol fel a ganlyn:

 

·         Corff Atebol a Swyddog Adran 151 – Cyngor Sir Caerfyrddin

·         Swyddog Monitro – Cyngor Dinas Abertawe a Chyngor Abertawe

·         Craffu – Cyngor Castell-nedd Port Talbot

·         Archwilio - Bod Cyngor Sir Penfro yn arwain ar y swyddogaeth archwilio ar ran y Cyd-bwyllgor, a bod y Swyddog Archwilio Arweiniol yn adrodd yn uniongyrchol i'r Swyddog Adran 151 i sicrhau bod dyletswyddau Adran 151 yn gallu cael eu cyflawni'n gyfreithiol a bod gwaith y rhaglen yn cael eu halinio'n briodol i'r risgiau

 

Gwnaed awgrym pellach fod unrhyw gostau gorbenion posibl, yn enwedig yr amser swyddogion mewn perthynas â'r uchod (Swyddogion Statudol, Gwasanaethau Democrataidd, Craffu ac Archwilio) yn cael eu rhoi fel cyfraniad mewn da at y costau rhedeg cyffredinol. Ni chytunodd yr un Awdurdod Lleol i unrhyw gyfraniadau arian parod ychwanegol at y symiau roeddid wedi cytuno arnynt yn flaenorol (£50K fesul Awdurdod y flwyddyn).

 

Cytunwyd ar y cyfraniad mewn da mewn egwyddor, er na nodwyd ffigurau. Byddid hefyd yn ymchwilio i gworwm tri aelod a dirprwyon dynodedig ar gyfer Aelodau'r Cyd-bwyllgor.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor mai dim ond Aelodau Awdurdodau Lleol roeddid wedi ymgynghori â hwy ar y cynnig, a hynny oherwydd prinder amser a chwmpas cyfyngedig yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad, awgrymodd y Cadeirydd y gellid gwahodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gymryd rhan yn y broses o ddiwygio'r Cytundeb ar y Cyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad a:

4.1.    Cytuno ar broffil swydd ar gyfer Cyfarwyddwr y Rhaglen fel y nodir yn yr atodiad i'r adroddiad, ond argymell i Gyngor Sir Caerfyrddin fel y cyflogwr arfaethedig y dylid darparu ar gyfer cynyddu'r cyflog os ceir penodiad rhagorol, a hefyd gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin ailystyried lefel y Gymraeg ysgrifenedig a llafar sydd ei hangen, gyda golwg ar ddenu ystod ehangach o ymgeiswyr;

4.2.    Mabwysiadu rhannu'r swyddogaethau statudol canlynol, gyda'r swyddi cysylltiedig yn cael eu hariannu gan yr Awdurdod Lleol cyfrifol gan adolygu trefniadau ailgodi

a.    Corff Atebol, Awdurdod Cyflogi a Swyddog Adran 151 – Cyngor Sir Caerfyrddin;

b.    Swyddog Monitro a Gwasanaethau Democrataidd – Cyngor Abertawe;

c.    Craffu – Cyngor Castell-nedd Port Talbot;

d.    Archwilio – Cyngor Sir Penfro (Swyddog yr Awdurdod Arweiniol yn adrodd yn uniongyrchol i'r Swyddog Adran 151 er mwyn sicrhau bod dyletswyddau Adran 151 yn gallu cael eu cyflawni'n gyfreithiol a bod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Y COFNOD MATERION PROSIECTAU A'R GOFRESTR RISG. pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i'r Cofnod Materion Prosiectau a'r Gofrestr Risg diweddaraf.

 

Mewn ymateb i ymholiad dywedodd y Cadeirydd fod Is-ganghellor newydd Prifysgol Abertawe wedi ailddatgan ei ymrwymiad i'r Fargen Ddinesig mewn cyfarfod cychwynnol ac yn adolygu cyfranogiad y Brifysgol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddfa Ranbarthol am ei chyfraniad. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Cofnod Materion Prosiectau a'r Gofrestr Risg.

6.

ALLDRO ARIANNOL AR GYFER 2018/19. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad am y sefyllfa alldro ariannol ar gyfer 2018/19. Dywedwyd bod y ffigurau alldro terfynol yn dangos gorwariant dros incwm o £14k ac y byddai hyn yn cael ei ariannu gan y balans a ddygwyd ymlaen o 2017-18 o £114k. Y balans a ddygwyd ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn oedd £100k. Dywedwyd hefyd fod disgwyl i'r cyfraniadau brigdorri o 1.5% ddigwydd pan fyddai cynlluniau'n cael eu cymeradwyo yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod disgwyl i'r holl bartneriaid dalu eu cyfraniadau. Aeth ymlaen i ddweud bod llythyr wedi dod i law wrth Lywodraeth Cymru yn cadarnhau ei bod wedi cael yr holl ddogfennau angenrheidiol. Dylai tua £32.2m o gyllid am y ddwy flynedd gyntaf gael ei ryddhau cyn bo hir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad alldro ariannol.

7.

CYLLIDEB Y CYD-BWYLLGOR 2019/20 pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cyd-bwyllgor ystyried ei gyllideb ar gyfer 2019-20 fel roeddid wedi cytuno arni yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor a oedd wedi'i gynnal ar 31 Awst 2018. Dywedyd y byddai'r gyllideb yn cael ei diwygio pan fyddai'r Cyd-bwyllgor wedi cytuno ar y trefniant llywodraethu diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

7.1.        Nodi cyllideb y Cyd-bwyllgor am 2019-20;

7.2.        Cydnabod y byddai'r gyllideb yn cael ei diwygio pan fyddai'r Cyd-bwyllgor wedi cytuno ar y trefniadau llywodraethu diwygiedig.

8.

MORLYN LLANW BAE ABERTAWE - YNYS YNNI - ADOLYGIAD O'R OPSIYNAU STRATEGOL. pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Paul Marshall o Holistic Capital i'r cyfarfod er mwyn cyflwyno adroddiad Holistic Capital ac ymateb y Tasglu Rhanbarthol. Dywedwyd bod y Tasglu Rhanbarthol wedi cael caniatâd gan y Cyd-bwyllgor i adolygu canlyniad gwrthod y model cyllido ar gyfer cyflawni'r morlyn llanw ym Mae Abertawe.

 

Dywedodd Mr Marshall fod yr ymatebion gan y sector preifat wedi bod yn galonogol ac awgrymodd fod potensial i wella'r costau cyfalaf tua 30% (a thrwy hynny leihau'r gost). Awgrymwyd y gellid diwygio'r prosiect fel prosiect ynni integredig (Prosiect Ynys Ynni'r Ddraig) a oedd yn cyfuno cynhyrchu ynni naturiol ag elfennau eraill seilwaith ac ynni adnewyddadwy.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddid yn penderfynu ar y ffigurau ariannol, nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, yn ystod y cam nesaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Cadeirydd nad prosiect Bargen Ddinesig oedd hwn ar hyn o bryd ond ffrwd waith dan arweiniad Cyngor Abertawe, a'i fod wedi ei roi gerbron y Cyd-bwyllgor er gwybodaeth. Dywedodd hefyd mai dim ond ymatebion y cwmni roedd y Tasglu Rhanbarthol wedi eu gwerthuso a bod y trefniadau llywodraethu a'r rheolau caffael wedi cael eu dilyn yn briodol.

 

Gwnaed nifer o sylwadau yn mynegi cefnogaeth i brosiect Ynys Ynni'r Ddraig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1.        Nodi adroddiad ac argymhellion y tasglu rhanbarthol;

8.2.        Cydnabod nad oedd ffigurau ariannol wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a bod gwaith yn cael ei gomisiynu i benderfynu ar y ffigurau cyn gynted â phosibl.

8.3.        Cefnogi ymgysylltiad parhaus â'r holl bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru;

8.4.        Rhoi caniatâd i'r Cyd-bwyllgor a'r Tasglu Rhanbarthol gyflwyno'r adroddiad a'r argymhellion i Lywodraeth Cymru;

8.5.        Bod Cyngor Abertawe yn arwain y prosiect ar ran y rhanbarth.

 

Gwahoddwyd Cadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor i roi diweddariad ynghylch cyfarfod diweddar gyda Gweinidogion Cymru. Dywedodd Mr Tomp fod pedwar argymhelliad wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru:

 

1.    Bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r ddau brosiect a oedd wedi gweld y cynnydd mwyaf ar unwaith (o fewn mis);

2.    Bod Llywodraeth Cymru yn darparu adnoddau ar gyfer gweithdai'r tîm prosiect ar y cynnwys gofynnol a fformat pum model achos busnes (o fewn 3 mis);

3.    Cyflwyno proses syml ar gyfer addasu a chyfnewid prosiectau,

4.    Cyflymu cyllid o 15 mlynedd i 5 mlynedd o gychwyn y prosiect.

 

Dywedodd Mr Tomp fod y Gweinidogion wedi derbyn Argymhellion 1 a 2 yn gadarnhaol a'u bod yn agored i drafodaethau pellach yngl?n ag Argymhelliad 3. Nid oedd argymhelliad wedi cael ei dderbyn ond roedd cyfleoedd o bosibl i fod yn hyblyg o ran prosiectau unigol.

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD.

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 15 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CYD-BWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

10.

ASESIAD ANNIBYNNOL O'R ARGYMHELLION YN DILYN ADOLYGIADAU BDBA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 9 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ynghylch trafodaethau arfaethedig am faterion cysylltiadau llafur rhwng yr Awdurdod a gweithwyr.

 

Bu i'r Cyd-bwyllgor ystyried adroddiad ar asesiad annibynnol o'r argymhellion oedd yn deillio o adolygiadau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a'r argymhellion.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau