Agenda a chofnodion drafft

Cyd-Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd & Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Llun, 10fed Mehefin, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd J. James yn gadeirydd y cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Higgins, K. Lloyd ac E. Morgan.

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Broom

Eitem 5 - Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cynllunio Ardal ynghylch Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol 2018/19.

Eitem 6 - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau 2018/19.

Mae ei g?r yn gweithio i sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD CYNLLUNIO RHANBARTHOL YNGHYLCH CAMDDEFNYDDIO CYFFURIAU AC ALCOHOL 2018-19 pdf eicon PDF 536 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, a Ms Joanna Dainton, Pennaeth Datblygu Strategaeth Partneriaeth a Chomisiynu (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad blynyddol Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol y Bwrdd Cynllunio Ardal ar gyfer 2018-19, a oedd yn rhoi sylw i ystod o feysydd, er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau a'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau comisiynu presennol a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddarperir.  Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

 

·         Yr amcanion strategol mewn perthynas â darparu gwasanaethau o'r fath, y trefniadau cyllido, a'r gwasanaethau/prosiectau a gomisiynir.

·         Datblygiadau lleol a chadarnhad o'r trefniadau llywodraethu a chynllunio sydd ar waith yn rhanbarthol.

·         Dangosyddion perfformiad, adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac astudiaethau achos.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd i'r swyddogion roi eu barn ynghylch y ffaith fod pecynnau Naloxone ar gael yn gyhoeddus a gofynnwyd pa gymorth oedd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth ar ôl defnyddio Naloxone.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ei bod yn cefnogi dosbarthu pecynnau Naloxone yn eang a bod Naloxone wedi achub bywydau ers iddo gael ei ddarparu.  Ar ôl defnyddio Naloxone, roedd y gwasanaeth yn darparu llwybr triniaeth ac adfer strwythuredig ar gyfer unigolion.  Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Strategaeth Partneriaeth a Chomisiynu (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) er bod Naloxone eisoes yn cael ei ddosbarthu'n eang, ei fod yn dal yn flaenoriaeth allweddol i'r Bwrdd Cynllunio Ardal. Dim ond drwy wasanaethau lleol cytunedig y gellid rheoli dosbarthu.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a chyffuriau dros y cownter megis codeine.  Roedd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod bod cymhlethdod camddefnyddio cyffuriau yn bryder a bod ystadegau'n dangos bod llawer yn defnyddio cyffuriau eilaidd.  Mae manylion ar wefan WEDINOS am y pum cyffur a ddefnyddir fwyaf.  Mae gan Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed lwyth achosion o gleientiaid sy'n dibynnu ar codeine a darparwyd pecynnau triniaeth.  Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd y gellid trefnu gwaith allgymorth yn y fferyllfeydd er mwyn hwyluso trafodaethau gydag unigolion yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth ar gyffuriau.

 

·         Gofynnwyd a oedd y gwasanaeth a ddarperir gan ganolfannau galw heibio yn cael ei archwilio.  Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod gan y Bwrdd Iechyd fframwaith sicrhau ansawdd cadarn ac os nad oedd asiantaeth yn rhoi gwerth am yr arian, neu os oedd yn tangyflawni yn erbyn y Cytundebau Lefel Gwasanaeth y cytunwyd arnynt, byddai'r Bwrdd yn ymyrryd a gallai ddatgomisiynu'r gwasanaeth.

 

·         Cyfeiriwyd at y pwyslais ar atal. Nodwyd, gan fod atal yn well na gwella, mai dyma oedd y ffordd ymlaen.

 

·         Awgrymwyd y dylid rhoi "cyflwyniadau llym" i blant mewn ysgolion ac na ddylent gael "dewis" o ran cymryd cyffuriau.  Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod arferion plant yn bennaf o ganlyniad i gylchoedd sy'n pontio'r cenedlaethau.  Roedd y gwaith traws-sefydliadol/amlasiantaethol a oedd yn cael ei wneud yn hyrwyddo addysg ac ymwybyddiaeth o fewn ysgolion.  Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Strategaeth Partneriaeth a Chomisiynu fod trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal â Llywodraeth Cymru gan dynnu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU 2018-19 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad blynyddol y gwasanaeth camddefnyddio sylweddau 2018-19 a oedd yn rhoi trosolwg o'r holl weithgarwch a wnaed gan wasanaethau arbenigol cyffuriau ac alcohol yr awdurdod drwy gydol y flwyddyn gan  amlinellu'r amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth ystadegol am ystod o wahanol gategorïau atgyfeirio a dadansoddiad o ddata o ran oedran, rhywedd a'r sylweddau a ddefnyddir.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Dywedwyd ei bod yn braf gweld ffocws ar atal a holwyd a ddylid sicrhau bod rhagor o arian ar gael ar gyfer eiriolaeth. Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, er ei bod yn anodd mynd i'r afael â'r maes hwn oherwydd yr agenda sy'n cyd-ddigwydd, cytunodd fod eiriolaeth yn bwysig ac roedd yn cydnabod bod angen cyflawni rhagor o waith.

 

·         Cyfeiriwyd at 'AUDIT C' a gofynnwyd a oedd hyn ar gael ar ap.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw apiau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ond bod dewisiadau eraill ar gael ar y farchnad. Ychwanegodd yr Uwch-reolwr Anghenion Cymhleth fod ystod o hyfforddiant ar gael i staff gofal cymdeithasol. 

 

·         Gofynnwyd cwestiwn yngl?n â chleifion sy'n ddibynnol ar alcohol mewn ysbytai ac i ble yr oeddent yn cael eu hatgyfeirio.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r Nyrs Cyswllt Alcohol oedd y sianel ar gyfer atgyfeiriadau'r gwasanaeth a bod y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol yn rhan o'r broses cyn rhyddhau cleifion.  Dywedwyd hefyd nad oedd Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed yn llwybr uniongyrchol ar gyfer rhyddhau cleifion. 

 

Yn ogystal, dywedwyd bod menter Gwasanaeth Noddfa Min Nos a leolir yn Llanelli yn cynnwys staff Mind a Hafod yn gweithio ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd. Mae'r gwasanaeth ar gael rhwng 6pm a 2am, o ddydd Iau i ddydd Sul.

 

·         Cyfeiriwyd at yr adran atgyfeiriadau yn ôl ffynhonnell yn yr adroddiad a gofynnwyd am eglurhad  ynghylch yr 'atgyfeiriadau yn ôl dyraniad'.  Eglurodd yr Uwch-reolwr Anghenion Cymhleth a Phontio fod hyn yn cynnwys atgyfeiriadau gan sefydliadau partner sef y Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed a'r Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol.   Dywedwyd bod cyfarfodydd wythnosol yn cael eu cynnal i drafod yr achosion.

 

·         Gofynnwyd pa mor hir yr oedd defnyddwyr gwasanaeth yn tueddu i aros yn Derwen Newydd, T?-croes.  Dywedodd yr Uwch-reolwr Anghenion Cymhleth a Phontio ei bod yn anodd nodi cyfartaledd yr arhosiad ond dywedodd ei fod yn golygu llety dros dro am uchafswm o ddwy flynedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21AIN MAI, 2018 pdf eicon PDF 329 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod ar y cyd y Pwyllgorau Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 21 Medi 2018, gan eu bod yn gywir.