Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR THE 5ED GORFFENNAF, 2019 pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 5ed Gorffennaf, 2019 yn gofnod cywir.

3.

POLISI ABSENOLDEB SALWCH pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad ynghylch y Polisi Absenoldeb Salwch diweddaraf.  Roedd y Polisi wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru yn dilyn sylwadau gan undebau llafur cydnabyddedig drwy Fforwm Corfforaethol Cysylltiadau â’r Gweithwyr ac ymgynghoriad dilynol â'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau a rheolwyr pobl yr Awdurdod.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y polisi diweddaraf ac awgrymodd y newidiadau canlynol:

 

·         1.0 Cyflwyniad – dylid cynnwys y canlynol yn y paragraff olaf -"ystyried symud drwy'r weithdrefn absenoldeb salwch ar sail y wybodaeth sydd ar gael" a/neu gymryd camau disgyblu, fel y bo'n briodol.

 

·         9.1 Cyfarfod Cefnogi'r Gweithiwr (ESM) – dylid cynnwys y gallai Skype fod yn ddull priodol o gynnal y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd uchod, gymeradwyo'r Polisi Absenoldeb Salwch diweddaraf.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau