Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 30 Hydref, 2017 yn gofnod cywir. |
|
POLISI PRYNU GWYLIAU - DIWEDDARIAD. PDF 398 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad ynghylch y Polisi Prynu Gwyliau Blynyddol diweddaraf. Eglurwyd bod y Polisi wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol o ran prynu pensiwn yn ôl. Yn ôl y newidiadau diweddar i'r CPLlL mae'n ofynnol i weithwyr ddewis prynu pensiwn yn ôl am gyfnod o absenoldeb ychwanegol (di-dâl). Mater i'r gweithiwr yw penderfynu a ydyw'n mynd i brynu pensiwn yn ôl, a chyfrifoldeb y gweithiwr yw gwneud y trefniadau hyn yn uniongyrchol â Chronfa Bensiwn Dyfed. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y polisi diweddaraf ac awgrymodd y newidiadau canlynol: · Paragraff 27 – ychwanegu brawddeg yn cyfeirio gweithwyr at y canllawiau ychwanegol i weithwyr. · Paragraff 19 – ei symud i baragraff 15. · Paragraff 24 – cynnwys manylion am yr amserlenni. PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd uchod, gymeradwyo'r Polisi Prynu Gwyliau Blynyddol diweddaraf. |