Lleoliad: ROOM 61, COUNTY HALL, CARMARTHEN
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2017 yn gofnod cywir. |
|
NODYN ARWEINIOL YNGHYLCH AROS GALWAD PDF 195 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar y diwygiadau arfaethedig o ran cyfradd a threfniadau wrth gefn yr Awdurdod.
Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod yr Awdurdod wedi bod yn ymgynghori â'r Undebau Llafur dros y deuddeg mis blaenorol ynghylch y trefniadau wrth gefn sy'n bodoli eisoes a'r gwir gyfradd sesiynol a ddefnyddir, sef yr uchaf yng Nghymru. Roedd yr ymgynghoriadau hynny wedi arwain at gyfarfod o’r Fforwm Corfforaethol Cysylltiadau â’r Gweithwyr ar 19 Hydref 2017, pan ddywedodd yr Undebau na fyddent mewn sefyllfa i ofyn am bleidlais gan eu haelodau ar y cynigion diwygiedig heb gael canllawiau clir gan yr Awdurdod ynghylch ei ddisgwyliadau o ran staff yn ymgymryd â threfniadau wrth gefn.
O ganlyniad, gofynnwyd i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo Nodyn Cyfarwyddyd diwygiedig ynghylch trefniadau 'wrth gefn' i'w gyflwyno i'r Undebau Llafur, a gafodd ei ddatblygu o'r canllawiau presennol a oedd yn gymwys ers gweithredu'r Statws Sengl yn 2012.
Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y canllawiau newydd ac awgrymodd y newidiadau canlynol: · Eitem 3 yn cael ei chroesgyfeirio at eitem 6 ar y sesiynau wrth gefn · Eitem 5, newid y 3ydd pwynt bwled i ddarllen "Mae'r manylion cyswllt angenrheidiol ar gael ac yn cael eu diweddaru'n rheolaidd”.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Nodyn Cyfarwyddyd diwygiedig, yn amodol ar y newidiadau uchod. |