Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

TREFN PERTHNASAU / CYSYLLTIADAU AGOS YN Y GWEITHLE AR GYFER YSGOLION pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Ganllawiau Cysylltiadau Personol Agos/Perthnasoedd yn y Gwaith ar gyfer Ysgolion. Eglurwyd bod y canllawiau wedi cael eu diweddaru i fodloni anghenion ysgolion. Byddai'n cynorthwyo Rheolwyr, Penaethiaid, Llywodraethwyr ac Ymgynghorwyr Adnoddau Dynol i ddelio'n sensitif, ond yn effeithiol, â sefyllfaoedd lle mae cysylltiad neu berthynas bersonol agos yn bodoli, neu wedi datblygu, rhwng gweithwyr â'i gilydd.

Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) a'r Uwch-bartner Busnes i gwestiynau gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol a nododd nifer o newidiadau awgrymedig pellach i'r canllawiau. Pwysleisiwyd bod canllawiau ychwanegol sydd wedi'u diweddaru yn cael eu llunio a fyddai'n cefnogi'r gwaith o weithredu'r canllawiau hyn.

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd, gymeradwyo canllawiau Cysylltiadau Personol Agos/Perthnasoedd yn y Gwaith ar gyfer Ysgolion.

 

3.

POLISI A GWEITHDREFN ACHWYNIADAU ENGHREIFFTIOL AR GYFER YSGOLION pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Bolisi a Gweithdrefn Achwyniadau Enghreifftiol ar gyfer Ysgolion. Eglurwyd bod y Polisi a'r Canllawiau wedi cael eu datblygu er mwyn sicrhau bod gweithwyr, rheolwyr a chymdeithion yn glir ynghylch eu rolau a'u cyfrifoldebau unigol o ran cyflwyno a datrys achwyniadau yn y gweithle. Cafodd ei ddatblygu yn unol â Chôd Ymarfer 1 y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) – Gweithdrefnau Disgyblu ac Achwyniadau a ddaeth i rym ym mis Mawrth 2015.

Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) a'r Uwch-bartner Busnes i gwestiynau gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol a nodi nifer o newidiadau awgrymedig pellach i'r polisi. Mewn ymateb i ymholiad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, pwysleisiodd Swyddogion fod hyfforddiant yn cael ei drefnu ar gyfer Penaethiaid Ysgol ynghylch y polisïau newydd a oedd yn cael eu cyflwyno.

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd, gymeradwyo'r Polisi a'r Weithdrefn Achwyniadau Enghreifftiol ar gyfer Ysgolion.

 

 

4.

Y POLISI DILEU SWYDDI / STAFF GORMODOL (ENGHREIFFTIOL) AR GYFER YSGOLION pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Bolisi Dileu Swyddi / Staff Gormodol Enghreifftiol ar gyfer Ysgolion. Pwysleisiwyd bod y polisi blaenorol bellach yn hen ac nad oedd yn adlewyrchu arferion cyfredol yr ysgolion. Cafodd y polisi newydd ei ddatblygu er mwyn darparu dull cam wrth gam rhesymegol i Benaethiaid a Chyrff Llywodraethu o ran rheoli sefyllfaoedd dileu swyddi yn eu hysgolion ac roedd yn cynnwys ystod o ddogfennau a thempledi defnyddiol y gellir cyfeirio atynt drwy gydol y broses. Nodwyd bod y polisi wedi cael ei ddatblygu drwy ymgynghori â chydweithwyr o Undebau Llafur a Phenaethiaid Ysgolion o groestoriad o Ysgolion Sir Gaerfyrddin.

Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) a'r Uwch-bartner Busnes i gwestiynau gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol a nododd nifer o newidiadau awgrymedig pellach i'r polisi.

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd, gymeradwyo'r Polisi Dileu Swyddi/Staff Gormodol Enghreifftiol ar gyfer Ysgolion.

 

 

5.

PROTOCOL ATAL GWEITHWYR AR GYFER YSGOLION pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r Protocol Atal ar gyfer Ysgolion. Pwysleisiwyd y byddai'r canllawiau yn cynorthwyo Penaethiaid i ddelio'n sensitif, ond yn effeithiol, â sefyllfaoedd lle'r oedd yn rhaid atal aelod o staff o'r ysgol dros dro, â thâl, wrth i archwiliadau gael eu cynnal.

Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) a'r Uwch-bartner Busnes i gwestiynau gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol a nododd nifer o newidiadau awgrymedig pellach i'r protocol.

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod angen i ysgolion fabwysiadu a gweithredu nifer o bolisïau newydd ac awgrymodd y dylid dosbarthu rhestr wedi'i diweddaru i ysgolion a chyrff llywodraethu. Nododd yr Uwch-bartner Busnes y byddai cylchlythyr ar gyfer ysgolion yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol a fyddai'n cynnwys y wybodaeth hon. Awgrymwyd hefyd bod yna restr o ysgolion a oedd wedi mabwysiadu'r Polisïau.

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd, gymeradwyo Protocol Atal y Cyngor ar gyfer Ysgolion.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau