Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 30 Hydref, 2018 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Yn gynharach, roedd y Cynghorydd E. Dole wedi datgan buddiant yn y cais a gyflwynwyd gan Gapel Annibynnol Caersalem am gymorth ariannol o Gronfa'r Degwm a'r cais a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Pontyberem am gymorth ariannol o'r Gronfa Cyllid a Dargedir)
PENDERFYNWYD
3.1 PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm a'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
3.2 byddid yn cyfeirio'r ceisiadau a gyflwynwyd gan Gapel Annibynnol Caersalem a Chyngor Cymuned Pontyberem at y Bwrdd Gweithredol er mwyn i'r Bwrdd benderfynu arno
|
|||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI. WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|||||||||||||
CRONFA LIFOGYDD BUSNESAU SIR GAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol geisiadau am gymorth gan Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-
|