Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 11 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 302 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 11 Mehefin, 2019 yn gofnod cywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA BUDD CYMUNEDOL MYNYDD Y BETWS, A'R CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws a Chronfa'r Degwm, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.

 

 Cronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

MYB-19-01

Cymdeithas Gorawl Rhydaman a'r Cylch

£2,159.10

MYB-19-02

Canolfan Deulu'r Betws

£15,000.00

MYB-19-05

Clwb Pêl-droed Cwmaman

£13,920.00

MYB-19-04

Cyngor Tref Rhydaman

£15,000.00

MYB-19-07

Canolfan Gymunedol Ystradowen

£10,488.00

MYB-19-08

Cadetiaid yr Awyrlu Brenhinol

£2,400.00

MYB-19-10

Canolfan Deulu'r Garnant

£9,562.00

MYB-19-12

Gofal Canser Tenovus

£15,000.00

 

Cronfa'r Degwm

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

WCF-19-12

Capel y Bedyddwyr Nasareth - Hendy-gwyn ar Daf

£979.20

 

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

CRONFA CYCHWYN BUSNES / TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Gan gyfeirio at gofnod 2 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD 

5.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

SUF73

Tiling Allsorts Wales

£1,116.23

SUF89

Esgidiau Cic Shoes

£7,500.00

Cronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

GF84

Creative Bridal

£9,999.50

GF81

Melin Energy Consultants

£5,414.33

GF108

BRD Sports Development Ltd.

£10,000.00

GF109

Choose 2Reuse

£5,773.72

GF102

Printed Chocolates

£5,000.00

GF105

Star MultiFuels

£10,000.00

GF106

Fresh Productions

£7,783.03

GF50

Gower View Foods

£10,000.00

GF92

Red Dragon Cleaning & Restoration

£10,000.00

GF120

Calon Lân

£5,644.56

 

5.2 cymeradwyo dyrannu £100k ychwanegol o gronfeydd wrth gefn Datblygu Economaidd i'w ychwanegu at gyllideb wreiddiol Cronfa Fusnes Sir Gaerfyrddin o £500k, o gofio llwyddiant y gronfa o ran helpu i greu swyddi newydd.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau