Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 16 MEDI, 2019 PDF 315 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019, gan ei fod yn gywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir a Chronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.
NODER: Oherwydd bod y Cynghorydd Dole wedi datgan buddiant yn y cais canlynol byddai'n cael ei gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol i'w aelodau ei ystyried.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.
Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
CRONFA CYCHWYN BUSNES / TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: NODER: Cafodd yr eitem hon ei thynnu oddi ar yr agenda.
|
|||||||||||||||||||||||||||||
CRONFA GWLEDIG MASNACHOL SIR GAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|