Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Mercher, 17eg Mawrth, 2021 11.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 11EG CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 279 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11eg Chwefror 2021, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cyllid a Dargediryn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Gronfa Cyllid a Dargedir

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Llangain & District Memorial Hall

£20,000.00

Calon y Fferi Community Centre

£3,884.00

Cymdeithas Genedlaethol Hywel Dda – Canolfan Hywel Dda

£13,600.00

Llanelli Railway Goods Shed Trust

£20,000.00

Pontyates RFC

£16,000.00

 

4.

CRONFA LIFOGYDD BUSNESAU SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 3 Cyfarfod Penderfyniadau'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer yr Arweinydd a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2018, ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn cynnig bod y Gronfa Lifogydd Busnesau wreiddiol yn parhau er mwyn helpu busnesau Sir Gaerfyrddin i adfer yn sgil y difrod, yn enwedig o ystyried effaith Covid-19 a'r nifer cynyddol o lifogydd yn sgil stormydd. Cynigwyd ymhellach y dylid diwygio'r meini prawf cymhwysedd gwreiddiol fel y gallai busnesau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn ystod y tair blynedd diwethaf gael cymorth ariannol ar gyfer prosiectau rhagweithiol i ddiogelu eu heiddo rhag difrod a achosir gan lifogydd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

4.1. cymeradwyo'n ffurfiol fod y Gronfa Lifogydd Busnesau wreiddiol yn parhau er mwyn helpu busnesau Sir Gaerfyrddin i adfer yn sgil y difrod i safleoedd a achoswyd gan lifogydd;

 

4.2 cytuno ar ddiwygiad i'r meini prawf cymhwysedd gwreiddiol i alluogi busnesau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn ystod y tair blynedd diwethaf i gael cymorth ariannol ar gyfer prosiectau rhagweithiol i ddiogelu eu heiddo rhag difrod a achosir gan lifogydd yn y dyfodol.