Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 17eg Rhagfyr, 2020 2.30 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 17EG TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 292 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17eg Tachwedd 2020, gan ei fod yn gywir.

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR ,CRONFA'R DEGWM AR GRONFA TLODI BWYD pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cyllid a Dargedir, Cronfa'r Degwm ar Gronfa Tlodi Bwyd yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Gronfa Cyllid a Dargedir

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Carmarthenshire’s Young Farmers Club  (YFC)

£20,000.00

 

Cronfa'r Degwm

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Bethlehem Capel - Llangadog

£720.00

Dafen Church

£1,325.00

The Carmarthenshire Antiquarian Society

£500.00

 

Gronfa Tlodi Bwyd

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Carmarthen Youth Project (Dr Mz)*

£1,346.00

Ground force Swiss Valley (Swiss Valley C.P School)

£4,934.85

Llwynhendy & Pemberton Forum

£3,193.98

Pembrey and Burry Port Town Council

£4,958.64

Salvation Army – Carmarthen*

£4,500.00

Ty Gwyn Community Enterprises

£5,000.00

Tyisha Positive Action Group

£4,822.00

 

[* Nodwyd bod y Cynghorwyr A. Lenny a G. John, sef aelodau ward De Tref Caerfyrddin – ac nid y Cynghorwyr A. Speake a E. Schiavone fel y nodwyd yn yr adroddiad – yn gwbl gefnogol i’r ceisiadau gan Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin (Dr Mz) a Byddin yr Iachawdwriaeth – Caerfyrddin.]

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

5.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYDcymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

CronfaMentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

CREF 084

British Birds of Prey Centre

£24,184.80

 

6.

CYMORTH ARIANNOL GAN RAGLEN ARFOR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr

 

Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o gronfa'r rhaglen ARFOR.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o gronfa'r rhaglen ARFOR yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa'r Rhaglen ARFOR

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

AG6-01

Coffi Bach

£5,000.00

AG6-02

Moch Coch

£5,000.00

AG6-03

The Crafty Dragon Ltd

£5,000.00