Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 30AIN MEDI 2020 PDF 193 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2020, gan ei fod yn gywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
GRANT TLODI BWYD CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU PDF 339 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn nodi cynigion i ddosbarthu £38,570 o gyllid cyfalaf gan CLlLC i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd drwy grant trydydd parti a weinyddir gan yr Awdurdod. Byddai'r grant trydydd parti yn agored i unrhyw sefydliad â chyfansoddiad sy'n ceisio helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yn Sir Gaerfyrddin. Cynigiwyd y byddai grantiau Cyfalaf rhwng £1,000 ac uchafswm o £5,000 ar gael.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwaith o gyflawni'r Gronfa Tlodi Bwyd drwy Grant Trydydd Parti.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws a Chronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y GRONFA CYLLID A DARGEDIR PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y diwygiadau arfaethedig i'r meini prawf presennol sy'n ymwneud â Chronfa Cyllid a Dargedir yr Awdurdod, er mwyn diwallu anghenion presennol y trydydd sector yng ngoleuni'r sefyllfa sydd ohoni. Ceisiwyd cymeradwyaeth hefyd ar gyfer dyrannu cyllid i gynllun peilot sy'n cael ei reoli gan Heddlu Dyfed-Powys i brofi model gwahanol i gefnogi gweithgareddau cymunedol.
PENDERFYNWYD
5.1 cymeradwyo'r diwygiadau i'r meini prawf presennol y manylir arnynt yn yr adroddiad sy'n ymwneud â Chronfa Cyllid a Dargedir yr Awdurdod i ddiwallu anghenion presennol y trydydd sector yng ngoleuni'r sefyllfa sydd ohoni;
5.2 cymeradwyo dyraniad o £7,500.00 o gyllid i gynllun peilot sy'n cael ei reoli gan Heddlu Dyfed-Powys.
|