Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin. S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 5ED AWST 2020 pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Awst 2020 yn gofnod cywir.

 

3.

CRONFA ADFER CANOL TREFI - TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar Lywodraeth Cymru yn codi rhai o'i chyfyngiadau Covid-19 ar gyfer busnesau manwerthu a hamdden a lletygarwch nad ydynt yn hanfodol, lle'r oedd nifer o fusnesau yng nghanol trefi ledled y sir yn wynebu'r heriau o ailagor a gweithredu busnesau o fewn cyfyngiadau canllawiau diwygiedig y llywodraeth. Er mwyn cefnogi'r prif fusnesau hynny yng nghanol trefi ar draws Sir Gaerfyrddin, roedd Llywodraeth Cymru, yn dilyn lobïo, wedi cymeradwyo cais rhanbarthol gan Gr?p Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI) De-orllewin Cymru, drwy'r partner corff arweiniol (Abertawe), i ganiatáu brigdorri dyraniadau TRI i gefnogi adferiad canol trefi. Fel rhan o'r cais hwnnw, cynghorwyd Sir Gaerfyrddin y gellid brigdorri £75k o'i ddyraniad i gefnogi rhoi dyraniad tybiannol o £25k fesul tref ar gyfer canol tair prif dref y sir (Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli).

 

Wedyn rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i baramedrau/canllawiau a phrosesau'r cynllun a sut y byddai'n gweithio. Os caiff y cynllun ei fabwysiadu, y llwybrau darparu a ffefrir i sicrhau'r gwerth gorau am arian, tra'n sicrhau perchnogaeth/cefnogaeth leol/rheolaeth leol, cyflawniad  amserol a rhoi ymyriad cydgysylltiedig i bob un o'r trefi fyddai:

 

Caerfyrddin – Cais ar y Cyd yn cael ei ddatblygu rhwng Cyngor Tref Caerfyrddin a Chais Caerfyrddin;

 

Llanelli - Cais ar y Cyd rhwng Cyngor Tref Llanelli a Chais Llanelli

 

Rhydaman – Cais cyflawni uniongyrchol yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar y cyd â Chyngor Tref Rhydaman a thasglu i'w gyflwyno naill ai gan Gyngor Sir Caerfyrddin neu gyfuniad o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Rhydaman.

 

Oherwydd bod brys i gyflawni, ar ôl cael cymeradwyaeth y Panel Economaidd, byddai angen ystyried a ddylid caniatáu i ymgeiswyr fwrw ymlaen â phrosiectau tra cheisid cymeradwyaeth wleidyddol ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD

3.1

derbyn cynnig Llywodraeth Cymru i frigdorri £75k o ddyraniad cyllid TRI i ddarparu Cronfa Adfer yng Nghanol y Prif Drefi;

3.2

cytuno ar y prosesau a'r ffurflenni arfaethedig i'w defnyddio i ddarparu'r gronfa;

3.3

cytuno ar y llwybrau a ffefrir ar gyfer darparu;

3.4

caniatáu i gyfranogwyr fwrw ymlaen, ar eu risg eu hunain, â chyflawni prosiectau tra cheisid cymeradwyaeth ffurfiol;

3.5

Os bydd yn ofynnol i geisiadau gael eu cyflwyno'n uniongyrchol gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn cytuno i ariannu'r dyraniad cyfalaf gofynnol yn unol â'r gyfradd ymyrraeth ofynnol, byddai cyllid ar gael o'r Gronfa Prosiect Strategol Trawsnewid.

 

4.

CRONFA TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO ADFER CANOL TREFI pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i dri chais am Grant Adfer Menter Adfywio wedi'i Thargedu at Ganol Trefi, fel oedd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y ceisiadau canlynol am Grant Adfer Menter Adfywio wedi'i Thargedu at Ganol Trefi yn cael eu cymeradwyo yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad.

 

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Cyngor Tref Caerfyrddin a Chais Caerfyrddin

£25,000.00

Cyngor Tref Rhydaman a Chyngor Sir Caerfyrddin

£25,000.00

Ymlaen Llanelli a Chyngor Tref Llanelli

£25,000.00

 

 

5.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.

 

Cronfa'r Degwm

Cyf.

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

WCF-20-04

San Mihangel a'r Holl Angylion, Rhydaman

£2,657.00

 

 

 

6.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

7.

CYMORTH ARIANNOL GAN RAGLEN ARFOR

Cofnodion:

Ar ôl cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod rhif 6 uchod, beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i gynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr Awdurdod sy'n dal y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa ARFOR.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa ARFOR yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Grant Rhaglen ARFOR

Cyf.

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

AG4-02

TIQI

£20,000.00

AG4-03

Swper Box CIC

£15,126.60

AG4-06

Cegin Lean Kitchen Cyf

£8,892.00

AG4-07

Pitchfork and Provision

£20,000.00

AG4-08

Llaeth Derlwyn

£10,844.86

AG4-09

JK Lewis a'i Fab

£11,828.39

 

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau