Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 19eg Chwefror, 2019 2.00 yp

Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 17 IONAWR, 2019 pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 17 Ionawr 2019, gan ei fod yn gywir.

 

3.

RHAGLEN TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO (TRI) 2018-2021 pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar gynigion i sefydlu Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio 2018-2021, i ddilyn y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i darparu'n llwyddiannus yng nghanol tref Llanelli drwy brosiect Stryd Cyfleoedd 2014-2017. Nod y rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio oedd cefnogi prosiectau adfywio mewn ardal benodol a oedd yn hyrwyddo adfywio economaidd - creu swyddi, gwella sgiliau a chyflogadwyedd a chreu'r amgylchedd iawn i fusnesau dyfu a ffynnu – gan ganolbwyntio ar unigolion ac ardaloedd oedd â'r angen mwyaf er mwyn sicrhau ffyniant ym mhob cwr o Gymru. Byddai'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddwy ardal allweddol sef Llanelli (Canol y Dref a chyffiniau Heol yr Orsaf) a Rhydaman (Canol y Dref).

 

PENDERFYNWYD 

3.1 cymeradwyo'r cynigion ar gyfer Darparu'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio Rhanbarthol ar gyfer 2018-2021;

3.2 cefnogi ymrwymiad o £1.5m o arian cyfatebol ar gyfer darparu rhaglen gyffredinol prosiectau Sir Gaerfyrddin;

3.3 dirprwyo'r gwaith o gwblhau'r dogfennau i'r Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi ynghyd â'r Rheolwr Datblygu Economaidd.

 

4.

BWRSARI'R GOLEUDY pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a geisiai gymeradwyaeth ar gyfer model ac egwyddorion arfaethedig Bwrsariaeth y Goleudy, sef cystadleuaeth flynyddol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ei chynnal ers sawl blwyddyn, mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a oedd yn rhan o ymrwymiad yr Awdurdod i ddatblygu entrepreneuriaeth yn y sir. Roedd y fwrsariaeth yn rhoi cyfle i fusnesau ac entrepreneuriaid newydd gael mynediad i gyllid, swyddfeydd, ac amrywiaeth o gyngor a chymorth, ac roedd yn agored i fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch sy'n byw neu'n astudio yn Sir Gaerfyrddin. Cynigir swyddfeydd am ddim yng Nghanolfan Fenter y Goleudy yn Nafen, Llanelli i enillwyr y gystadleuaeth, a hefyd cânt wobr o hyd at £5,000 a chymorth mentora er mwyn iddynt allu datblygu eu busnesau. Y gyllideb ar gyfer Bwrsariaeth y Goleudy oedd £8k y flwyddyn, a Chyngor Sir Caerfyrddin oedd yn cyfrannu pob dime goch. Er mwyn gwella'n barhaus roedd rhai pwyntiau gweithredol a gweinyddol yn cael eu diwygio ar gyfer cystadleuaeth 2019. Roedd y rhain yn cael eu gweithredu er mwyn paratoi i lansio cystadleuaeth eleni ac, yn bwysicach byth, yn barod ar gyfer y cam ymgeisio, ac ar gyfer hawliadau terfynol a hawliadau'r dyfodol gan yr enillwyr.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Menter Bwrsariaeth y Goleudy.

5.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

6.

CRONFA CYCHWYN BUSNES/TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Gan gyfeirio at gofnod 2 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin

 

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

T? Cerdd                                                                                          £2,768.50

 

Cronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin

 

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Celtic Podiatry Ltd                                                                              £10,000.00

 

7.

CRONFA LIFOGYDD BUSNESAU SIR GAERFYRDDIN.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol geisiadau am gymorth gan Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd

                         Y Dyfarniad

Beiciau Hobbs, Llangynnwr                                                                £1,500.00

WD Thomas & Sons, Llandysul                                              £137.50

Richard Lewis, Abergwili                                                                    £4,616.63

Y Pwerdy, Pont-tyweli                                                                        £4,968.00

Laser Station, Caerfyrddin                                                                  £983.79

GeneralStores, Pont-tyweli                                                    £1,500.33

Latham, Latham & Berry, T? Myrddin, Caerfyrddin                 £2,441.37

Jones & Davies Fruit Ltd., Pont-tyweli                                   £4,949.86

StationGarage, Llanybydder                                                  £4,999.00