Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 16eg Tachwedd, 2018 9.30 yb

Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

3.

CRONFA LIFOGYDD BUSNESAU SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil y prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 2 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod a oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth hon yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth gan Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Afon Teifi Caravan Park, Pentrecagal                                                 £4999.00

Diabloson the Quay, Caerfyrddin                                                        £3097.00

Caffi a Siop Sglodion Hagans, Pensarn                                             £4995.78

Paul Hallam, masnachu fel Unit 2 Cars, Pont-tyweli                        £4,989.50

 

4.

CRONFA CYCHWYN BUSNES/TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil y prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 2 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod a oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth hon yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn cofnod 2 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018 ystyriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin

 

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Welshtastic                                                                                      £1,549.93

RufusTravel                                                                                   £1,613.31

Lisa Fearne Ltd, masnachu fel Y Sied                                             £10,000.00

Highly Ltd                                                                                        £1,147.75

 

Cronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Midtec                                                                                            £10,000.00

LSN Diffusion                                                                                             £9,335.00

Sapphire Windows                                                                          £9,700.00