Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 30ain Hydref, 2018 9.30 yb

Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 11 HYDREF 2018 pdf eicon PDF 129 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 11 Hydref, 2018 yn gofnod cywir.

 

3.

CRONFA LIFOGYDD BUSNESAU SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn y llifogydd diweddar ledled y sir o ganlyniad i Storm Callum a oedd wedi effeithio ar oddeutu 120 o fusnesau ac wedi tarfu ar weithgaredd busnes, ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad am y bwriad i sefydlu Cronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin gwerth £200k. Roedd cyllid ar gyfer y Gronfa wedi'i glustnodi o raglen gyfalaf y Cyngor, er mwyn helpu mentrau preifat a mentrau trydydd sector yn dilyn y difrod a achoswyd gan y llifogydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r dyraniad dros dro o £200k, meini prawf cymhwyso, ffurflenni a gweithdrefnau arfaethedig er mwyn sefydlu a darparu Cronfa Lifogydd Busnesau.

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA LIFOGYDD BUSNESAU SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol geisiadau am gymorth gan Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Ymgeisydd                                                                          Dyfarniad

BabsTakeaway, Pont-tyweli                                                 £3059.10

TregroesWaffles, Pont-tyweli                                                          £4728.50

HalfMoon Inn, Pont-tyweli                                                     £4569.91

Swaines Commercial, Pont-tyweli                                          £597.96

White Water Consultancy, Bronwydd                                     £4972.02