Agenda a Chofnodion

Moved from 10/10/2019, Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 3ydd Hydref, 2019 2.00 yp

Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Enw

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cyng. E. Dole

Cofnod Rhif 3 - cais WCF-19-15 Capel Annibynnol Caersalem            

Gweinidog rhan-amser

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 16 MEDI, 2019 pdf eicon PDF 315 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR A'R CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir a Chronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.

 

Y Gronfa Cyllid a Dargedir

Cyf. y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

TFF-19-01

Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn

£20,000.00

Cronfa'r Degwm

Cyf. y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

WCF-19-14

Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn

£3,000.00

WCF-19-16

Eglwys Bethel - Caerfyrddin

£10,000.00

WCF-19-17

Eglwys Fethodistaidd y Drindod

£2,333.50

 

NODER:

Oherwydd bod y Cynghorydd Dole wedi datgan buddiant yn y cais canlynol byddai'n cael ei gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol i'w aelodau ei ystyried.

 

Cyf. y Cais

Yr Ymgeisydd

WCF-19-15

Capel Annibynnol Caersalem

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

CRONFA CYCHWYN BUSNES / TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

NODER: Cafodd yr eitem hon ei thynnu oddi ar yr agenda.

 

6.

CRONFA GWLEDIG MASNACHOL SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin

Cyf. y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

CREF 102

Ian Thomas Construction Services Ltd

£128,000.00

CREF 087

Carreg Law

£33,579.99