Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 16EG MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI

CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R

BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL

I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O

ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I

NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

CRONFA DATBLYGU ADFYWIO RHYDAMAN - AILDDATBLYGU ADEILAD BANC LLOYDS GYNT, 1 STRYD Y CEI, RHYDAMAN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad a amlinellir uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad gan y gallai datgelu'r wybodaeth honno gael effaith negyddol anghymesur ar sefyllfa negodi'r ymgeisydd wrth ymwneud â darpar ymgeiswyr.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan Mr Andrew Owen (un o weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin) am grant tuag at gost ailddatblygu Banc Lloyds gynt, 1 Stryd y Cei, Rhydaman.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am grant o Gronfa Datblygu Adfywio Rhydaman yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

 

Ymgeisydd / Eiddo

Dyfarniad

 

Mr Andrew Owen - Banc Lloyds gynt, 1 Stryd y Cei, Rhydaman

 

£145,236,16

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau