Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 20 RHAGFYR, 2017 PDF 102 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2017, gan ei fod yn gywir.
|
|
CRONFA CYCHWYN BUSNES SIR GAERFYRDDIN & CRONFA TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad am y bwriad i sefydlu Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin. Awgrymwyd bod cyllideb o £500,000.00 yn cael ei dyrannu i'r gronfa, a fyddai yn ddau gynllun grant trydydd parti ar wahân, h.y. 1 x cronfa cychwyn busnes ac 1 x cronfa dwf. Argymhellwyd bod £150,000.00 yn cael ei ddyrannu i'r gronfa cychwyn busnes a £350,000.00 yn cael ei ddyrannu i'r gronfa dwf. Blaenoriaeth y gronfa fyddai i gefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r dyraniad o £500,000.00 tuag at y ddwy gronfa cymorth busnes newydd uchod yn unol â'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad.
|
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau ganlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - LANES CARS WORKSHOPS LTD Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gais gan Lanes Cars Workshops Ltd. am grant tuag at adnewyddu Uned 1 yng Nghanolfan Parry Thomas, Pentywyn, i greu uned ar thema ceir clasurol y 50au/60au a fydd yn arddangos ceir Jaguar E-Type wedi'u hadfer a chreu atyniad sy'n gysylltiedig â thema 'cyflymder' Pentywyn. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am grant o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Ymgeisydd / Eiddo Dyfarniad Lanes Cars Workshops Ltd / Canolfan Parry Thomas, Pentywyn £17,409.15
|