Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNODION PENDERFYNIADAU - 17EG A 27AIN TACHWEDD 2017 PDF 73 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnodion o benderfyniadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 a 27 Tachwedd 2017 gan eu bod yn gywir.
|
|
CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRANT CRONFA'R DEGWM PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Ymgeisydd Dyfarniad Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch £3,000.00 Canolfan Gymunedol Pen-y-groes £3,000.00 Gr?p Menter Gymdeithasol Glanyfferi £3,000.00
|
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - CYWION BACH CYF Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gais gan Cywion Bach Cyf am grant tuag at ddatblygu'r hen ysgol yn Idole yn feithrinfa a fyddai'n cynnal 7 o swyddi llawn amser a 13 o swyddi rhan-amser yn ogystal â golygu bod 261 metr sgwâr o ofod llawr yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Yr Ymgeisydd/Eiddo Y Dyfarniad Cywion Bach Cyf /Ysgol y Fro, Idole £128,000.00
|