Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 12fed Hydref, 2017 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 12 MEDI 2017 pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2017 yn gofnod cywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRANT CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Carmarthenshire Families Respite Breaks                                 £2,897.20

Menter Cwm Gwendraeth Elli                                                          £3,000.00

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

5.

CRONFA DATBLYGU EIDDO MASNACHOL AR GYFER TRAWSNEWID SIR GAERFYRDDIN - ASPECT DEVELOPMENTS WALES LTD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gais gan Aspect Development Wales Ltd. am grant tuag at addasu hen adeilad y Llys, Stryd Marged, Rhydaman, er mwyn datblygu gofod swyddfa newydd a fyddai'n darparu lle ar gyfer 17 o swyddi yn Rhydaman ac yn golygu bod 3560 troedfedd sgwâr o le sydd wedi bod yn wag yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cyflogaeth unwaith eto. 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am grant o Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewid Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd / Eiddo                                                     Y Dyfarniad

AspectDevelopment Wales Ltd./                                             £155,733.16

hen adeilad y Llys,

Stryd Marged, Rhydaman,

 

6.

CRONFA DATBLYGU EIDDO MASNACHOL TRAWSNEWID SIR GAERFYRDDIN:ELLISTON LETTING LTD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gais gan Elliston Letting Ltd. am grant tuag at adeiladu swyddfeydd deulawr ar dir ger 9 Teras Elliston, Caerfyrddin, a fyddai'n  darparu lle ar gyfer 7 o swyddi yng Nghaerfyrddin ac yn creu 1510.70 troedfedd sgwâr o arwynebedd mewnol net y gellid ei osod fel swyddfeydd dros 2 lawr.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am grant o Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewid Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd / Eiddo                                                     Y Dyfarniad

EllistonLettings Ltd./                                                              £158,000.00

9 Teras Elliston, Caerfyrddin

 

 

7.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - IAN THOMAS CONSTRUCTION SERVICES LTD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gais gan Ian Thomas Construction Services Ltd. am grant tuag at ddymchwel adeilad ffrâm ddur ac adeiladu cyfleuster swyddfa newydd yn Llwydcoed, Llandeilo, a fyddai'n creu 7 o swyddi llawn amser yn ogystal â golygu bod 585 metr sgwâr o ofod llawr yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am grant o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd / Eiddo                                                                   Y Dyfarniad

Ian Thomas Construction Services Ltd./                                     £128,000.00

Llwydcoed, Llandeilo

 

8.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - PADDA CARE LTD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gais gan Padda Care Ltd. am grant tuag at addasu adeilad a arferai fod yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin yn Llandybie fel ei fod yn addas at ddefnydd newydd fel Cartref Nyrsio gyda 28 o ystafelloedd gwely. Byddai'r prosiect yn creu 20 o swyddi llawn amser a 15 o swyddi rhan-amser.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am grant o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd / Eiddo                                                                   Y Dyfarniad

Padda Care Ltd./                                                                        £128,000.00

Hen Gartref Gofal Glanmarlais,

Llandybïe