Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 18 GORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR A'R CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm a'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Neuadd Eglwys Sant Edmwnd                                                        £2,363.20

Canolfan Gymunedol y Mynydd Du                                                  £3,000.00

Menter Cilycwm                                                                           £3,000.00

Cyngor Tref Cwmaman                                                                £10,000.00

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI.

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

5.

CRONFA CYCHWYN BUSNES/TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn cofnod 3 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018 ystyriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir. Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fân newidiadau a wnaed i'r ddogfennaeth ar gyfer y naill Gronfa a'r llall, a ddigwyddodd yn sgil oedi wrth lansio'r cynllun a'r trefniadau ymarferol cysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd                                                                    Dyfarniad

Corgi Hosiery                                                                 £10,000.00

Coaltown Coffee                                                            £10,000.00

Evans & Wilkins                                                             £2,499.50

Oreknot Creative Hub                                                    £2,233.64

Hafod Finance Solutions Ltd                                          £1,130.36

Ickle Bubba                                                                    £10,000.00

Trywydd                                                                         £2,500.00

Broadleaf Timber Ltd                                                     £10,000.00

Sonex 3 Financial Ltd                                                    £8,044.00

Atebol                                                                            £10,000.00

Ty Gofal Ltd                                                                   £9,842.72

Divine Health & Beauty                                                  £9,764.70

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau