Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diogelu'r Cyhoedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 17eg Ionawr, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 26 GORFFENNAF, 2019 pdf eicon PDF 291 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir.

 

3.

Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y gweithgaredd cudd-wylio yr oedd yr Awdurdod wedi ymgymryd ag ef yn 2019, ynghyd â'r gweithdrefnau ysgrifenedig ynghylch y dull o gynnal cudd-wylio gan staff a defnyddio cudd-wylio o'r fath. 

Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y meysydd canlynol:

 

·         Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig

·         Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol;

·         Rhyng-gipio Data Cyfathrebu;

·         Gweithgaredd Cudd-wylio Anawdurdodedig

·         Adroddiadau Ystadegol;

·         Arolygiad gan y Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPC)

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol nad oedd unrhyw awdurdodiadau wedi'u cyflwyno dan y Ddeddf hon yn ystod 2019 ynghylch y dull o gynnal cudd-wylio o'r fath, ffynonellau cuddwybodaeth ddynol a rhyng-gipio data cyfathrebu.

 

PENDERFYNWYD:

3.1 nodi'r gweithgaredd cudd-wylio yr oedd y Cyngor wedi ymgymryd ag ef yn 2019;

3.2  cymeradwyo'r newidiadau i'r weithdrefn gorfforaethol ar gyfer 2020 ynghylch cudd-wylio o'r fath.