Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diogelu'r Cyhoedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 28ain Ionawr, 2021 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 17 IONAWR 2020 pdf eicon PDF 298 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2020 yn gofnod cywir.

 

3.

Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y gweithgaredd cuddwylio yr oedd yr Awdurdod wedi ymgymryd ag ef yn 2020, ynghyd â'r gweithdrefnau ysgrifenedig ynghylch y dull o gynnal cuddwylio gan staff a defnyddio cuddwylio o'r fath. Nodwyd hefyd bod dogfen gweithdrefnau'r Cyngor wedi'i hadolygu a bod newidiadau wedi'u gwneud i'r adran yn ymwneud â rhyng-gipio data cyfathrebu i adlewyrchu newidiadau i'r broses ymgeisio a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

 

·       Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig;

·       Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol;

·       Rhyng-gipio Data Cyfathrebu;

·       Cuddwylio Anawdurdodedig;

·       Adroddiadau Ystadegol;

·       Dogfen Gweithdrefnau Cuddwylio.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol nad oedd unrhyw awdurdodiadau wedi'u cyflwyno dan y Ddeddf hon yn ystod 2020 ynghylch y dull o gynnal gwyliadwriaeth gyfeiriedig, ffynonellau cuddwybodaeth ddynol a rhyng-gipio data cyfathrebu.

 

PENDERFYNWYD:

 

3.1nodi'r gweithgaredd cuddwylio yr oedd yr Awdurdod wedi ymgymryd ag ef yn 2020;

 

3.2cymeradwyo'r newidiadau i'r Ddogfen Gweithdrefnau Gwyliadwriaeth Gorfforaethol ynghylch y dull o gynnal gwyliadwriaeth ar gyfer 2021.