Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 26 TACHWEDD, 2019 pdf eicon PDF 283 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir.

 

 

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU. pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cynnig i wneud newidiadau i'r meini prawf sgorio a lefelau cyllido'r Cynllun Cymorth Digwyddiadau ar gyfer 2020/21.

 

Fel rhan o gyfres o gamau i ddatblygu cyfraniad digwyddiadau a gwyliau yn Sir Gaerfyrddin, roedd Cynllun y Gronfa Cymorth Digwyddiadau wedi dyrannu £20,000 ers 2017.

 

Nod y Cynllun oedd darparu cymorth ariannol i ddigwyddiadau yn y Sir a oedd yn gallu dangos cyfraniad at yr amcanion strategol o ran Twristiaeth, Cymunedau a'r Economi.

 

Dywedwyd bod y cynllun wedi bod yn ased gwerthfawr i drefnwyr digwyddiadau er bod ceisiadau yn amrywio bob tro o ran math, maint, hyd, tocynnau, lleoliad ac amcan.  

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cynnig wedi codi yn dilyn archwiliad diweddar a oedd yn rhoi cyfle i swyddogion, a ffurfiodd y Panel, adolygu'r broses a'r wybodaeth a ddarparwyd. 

 

O ran sectorau twristiaeth a chymuned, y ddau brif fath o geisiadau a dderbyniwyd am ddigwyddiad, cynigiwyd addasu'r meini prawf sgorio a lefelau cyllido i adlewyrchu'n well yr ystod o geisiadau gan drefnwyr digwyddiadau twristiaeth a chymuned ar raddfa fawr.

 

Mae'r meini prawf sgorio diwygiedig yn gosod maen prawf penodol ar gyfer y ddau fath yn ogystal â chynnig uchafswm o £2,000 i ddigwyddiadau cymunedol a chadw'r uchafswm o £5,000 ar gyfer digwyddiadau mwy sy'n canolbwyntio ar dwristiaeth.

 

Dywedwyd pe bai'r cynnig yn cael ei dderbyn, byddai'r meini prawf sgorio diwygiedig yn cael eu cyfleu'n briodol i aelodau'r cylch digwyddiadau a'u rhoi ar wefan y Cyngor ym mis Ionawr 2020 fel bod y meini prawf diwygiedig yn barod i'w rhoi ar waith ar gyfer digwyddiadau sy'n cael eu cynnal o fis Ebrill 2020 ymlaen. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau i feini prawf sgorio a lefelau cyllido'r Cynllun Cymorth Digwyddiadau ar gyfer 2020/21, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau