Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 15FED GORFFENNAF, 2020 pdf eicon PDF 286 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2020 yn gofnod cywir.

 

 

3.

TALIADAU HAMDDEN 2021-22 pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r adroddiad ynghylch Taliadau Hamdden 2021-22 sy'n gofyn am gymeradwyo'r ffioedd arfaethedig a oedd yn ffurfio rhan o'r cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer yr adran hamdden yn 2021/22. Roedd yr adroddiad yn cynnwys taliadau am y canlynol:-

 

·         Gwasanaethau Diwylliannol (Y Celfyddydau, Amgueddfeydd, Theatrau a'r Gwasanaeth Archifau)

·         Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (Canolfannau Hamdden, pyllau nofio, cynnyrch ar-lein Actif a Thaliadau Chwaraeon Cymunedol Actif)

·         Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm,  maes parcio Traeth Pentywyn a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at effeithiau pandemig Covid-19 ar Wasanaethau Hamdden a chymeradwyodd y datganiad yn 2.2. o'r Crynodeb Gweithredol lle y byddai'r adroddiad codi tâl yn cael ei ddefnyddio fel fframwaith craidd a fyddai'n galluogi rheolwyr i weithio'n unol ag ef, yn enwedig o ran taliadau tymhorol ac aelodaeth. Nodwyd y byddid yn ymgynghori ag Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn rhan o unrhyw newidiadau sylweddol i'r rhestr gyfraddau arfaethedig a byddai'n rhaid i ddau uwch-swyddog a Phennaeth y Gwasanaeth gytuno ynghylch egwyddor unrhyw newidiadau, a'u cymeradwyo, er mwyn sicrhau y byddai atebolrwydd a hyblygrwydd yn parhau, yn yr un modd â'r blynyddoedd blaenorol.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaeth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor wedi ymrwymo i gontract yn 2018 â marina Porth Tywyn i reoli a gweithredu Harbwr Porth Tywyn, a bod y ffioedd angori bellach yn cael eu gosod gan y cwmni hwnnw a chyfran felly'n cael ei thalu i'r Cyngor. Dywedodd fod mater a oedd angen ei gynnwys yn y taliadau hynny yn gysylltiedig â lefel y taliadau parcio a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r sawl sy'n angori. Erbyn hyn daethpwyd i gytundeb â'r cwmni ynghylch tâl parcio o £10 i'r sawl sy'n angori, tra eu bod yn gwneud hynny, ac yna byddai'r cwmni yn ei dalu i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Taliadau Hamdden 2021-22 fel y nodir yn yr adroddiad.

 

 

4.

FFRAMWAITH ARDDANGOSFEYDD AC ARDDANGOSIADAU COFGÂR pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar fabwysiadu Fframwaith Arddangosfeydd ac Arddangosiadau Cofgâr gan sefydlu strwythur a darparu parhad ar gyfer Cofgâr yn ystod cyfnod o ddatblygu a newid. Nodwyd y dylai unrhyw fframwaith arddangos neu arddangosiad fod o ganlyniad i broses ddatblygu hir a gefnogir gan safonau proffesiynol, arferion da ynghyd ag ystyriaeth yn cael ei rhoi i bwrpas, i gynulleidfaoedd, i ddeilliannau dysgu, i fethodoleg, i 'fwrw golwg ar y gorwel', i risg ac i reoli perfformiad. Dangosodd y fframwaith arfaethedig sut roedd arddangosfeydd ac arddangosiadau'n cydredeg ag amcanion strategol ac yn nodi'r gwerthoedd a'r amcanion oedd yn llywio'r gweithgaredd. Roedd y fframwaith hefyd yn cyfleu'r hyn y gallai pobl ei ddisgwyl o'r arddangosfeydd a'r rhaglenni arddangos, ac yn darparu sail ar gyfer mesur perfformiad y gwasanaeth.

 

Hwn oedd fersiwn cyntaf y fframwaith a fyddai'n cael ei adolygu bob tair blynedd, neu cyn hynny, petai newid sylweddol o ran y gwasanaeth, a'r bwriad oedd sicrhau ei fod ar gael yn gyhoeddus ar wefan Cofgâr maes o law.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Fframwaith Arddangosfeydd Ac Arddangosiadau Cofgâr.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau