Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 26 TACHWEDD, 2019 PDF 283 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir.
|
|
CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU. PDF 249 KB Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cynnig i wneud newidiadau i'r meini prawf sgorio a lefelau cyllido'r Cynllun Cymorth Digwyddiadau ar gyfer 2020/21.
Fel rhan o gyfres o gamau i ddatblygu cyfraniad digwyddiadau a gwyliau yn Sir Gaerfyrddin, roedd Cynllun y Gronfa Cymorth Digwyddiadau wedi dyrannu £20,000 ers 2017.
Nod y Cynllun oedd darparu cymorth ariannol i ddigwyddiadau yn y Sir a oedd yn gallu dangos cyfraniad at yr amcanion strategol o ran Twristiaeth, Cymunedau a'r Economi.
Dywedwyd bod y cynllun wedi bod yn ased gwerthfawr i drefnwyr digwyddiadau er bod ceisiadau yn amrywio bob tro o ran math, maint, hyd, tocynnau, lleoliad ac amcan.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cynnig wedi codi yn dilyn archwiliad diweddar a oedd yn rhoi cyfle i swyddogion, a ffurfiodd y Panel, adolygu'r broses a'r wybodaeth a ddarparwyd.
O ran sectorau twristiaeth a chymuned, y ddau brif fath o geisiadau a dderbyniwyd am ddigwyddiad, cynigiwyd addasu'r meini prawf sgorio a lefelau cyllido i adlewyrchu'n well yr ystod o geisiadau gan drefnwyr digwyddiadau twristiaeth a chymuned ar raddfa fawr.
Mae'r meini prawf sgorio diwygiedig yn gosod maen prawf penodol ar gyfer y ddau fath yn ogystal â chynnig uchafswm o £2,000 i ddigwyddiadau cymunedol a chadw'r uchafswm o £5,000 ar gyfer digwyddiadau mwy sy'n canolbwyntio ar dwristiaeth.
Dywedwyd pe bai'r cynnig yn cael ei dderbyn, byddai'r meini prawf sgorio diwygiedig yn cael eu cyfleu'n briodol i aelodau'r cylch digwyddiadau a'u rhoi ar wefan y Cyngor ym mis Ionawr 2020 fel bod y meini prawf diwygiedig yn barod i'w rhoi ar waith ar gyfer digwyddiadau sy'n cael eu cynnal o fis Ebrill 2020 ymlaen.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau i feini prawf sgorio a lefelau cyllido'r Cynllun Cymorth Digwyddiadau ar gyfer 2020/21, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
|