Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Cyn Mai 2022) - Dydd Mercher, 15fed Ionawr, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 17EG RHAGFYR, 2019 pdf eicon PDF 287 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir.

 

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU pdf eicon PDF 267 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a fanylai ar geisiadau a ddaeth i law am gymorth ariannol gan y Cynllun Cymorth Digwyddiadau ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21, a oedd wedi'u hasesu yn unol â meini prawf y cynllun.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Marchnata a'r Cyfryngau Cynorthwyol at y cais a gyflwynwyd ar gyfer Wythnos Gymraeg Caerfyrddin a dywedodd bod cyfarfod wedi ei gynnal gyda threfnwyr y digwyddiad yn dilyn paratoi'r adroddiad, a oedd yn cynnwys trafodaethau ynghylch paratoi cynllun marchnata digwyddiad i dargedu ardaloedd i'r dwyrain o Sir Gaerfyrddin. O ganlyniad i'r trafodaethau hynny, argymhellwyd y dylid rhoi £500 ychwanegol i gynyddu'r grant i £1250 pe bai'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cymeradwyo'r cais, i helpu i ariannu cost y cynllun marchnata.

 

Nodwyd bod y swm o £19,602 wedi'i neilltuo o'r dyraniad o £20,000 ar gyfer 2019/20 a swm o £2,500 o'r dyraniad o £20,000 ar gyfer 2020/21 yn amodol ar gymeradwyo'r ceisiadau cyfredol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Cynllun Cymorth Digwyddiadau yn amodol ar y telerau a'r amodau a bennwyd ym meini prawf y gronfa:-

 

Digwyddiad

Swm

Wythnos Gymraeg Caerfyrddin, Chwefror 2020 (cynllun 2019/20)

£1250

Hwyl Llên Llandeilo, Ebrill 2020 (cynllun 2020/21)

£1,500