Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 18fed Mehefin, 2018 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

P. Hughes Griffiths

3 – Ceisiadau i'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau

Mae'n byw ar draws y ffordd i leoliad G?yl Canol Dre 2018.

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 23AIN MAI 2018. pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 23 Mai 2018, gan ei fod yn gywir.

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU. pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

(Noder: Fe wnaeth y Cynghorydd P. Hughes Griffiths ddatgan buddiant personol yn achos G?yl Canol Dre 2018).

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys manylion am y ceisiadau am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau, a oedd wedi cael eu hasesu yn erbyn meini prawf ar sail eu cyfraniad at amcanion strategol yr Awdurdod o ran Twristiaeth, y Gymuned a'r Economi.

 

 PENDERFYNWYD:

 

3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau, yn amodol ar y telerau a'r amodau a bennwyd ym meini prawf y gronfa:-

 

Digwyddiad

Gwobr

G?yl Canol Dre 2018

£2,000

G?yl y Celt 2018

£685

G?yl Gerdd Llandeilo 2018

£1,000

Pythefnos y Glowyr, Rhydaman 2018

£1,000

 

3.2     yn unol â meini prawf y gronfa, na fyddid yn cefnogi'r ceisiadau canlynol

 

Diwrnod LGBTQ+ Llanelli 2018

Sioe Ardd Pen-bre 2018

Small Gatherings 2018