Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERYNIADAU - 11EG CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2019 yn gywir.

 

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a roddai fanylion am geisiadau am gymorth gan y Cynllun Cymorth Digwyddiadau, sydd wedi cael eu hasesu ac sy’n dod i gyfanswm o £6,762.00.

 

PENDERFYNWYD

 

3.1 bod y ceisiadau canlynol am gymorth gan y Cynllun Cymorth Digwyddiadau yn cael eu cymeradwyo, yn amodol ar y telerau a’r amodau a nodwyd yn y meini prawf ar gyfer y gronfa:-

 

Digwyddiad

Swm

G?yl y Celt 2019

£1,300.00

Tynnu Rhaff Llanboidy 2019

£1,800.00

G?yl y Synhwyrau, Llandeilo 2019   

£2,312.00

G?yl yr Orsedd 2019

£1,500.00*

 

[*15 perfformiad o’r ddrama ‘Iolo’ - £100 fesul perfformiad]

 

3.2  yn unol â meini prawf y gronfa, na fydd y ceisiadau canlynol yn cael cymorth:-

 

Walk for Maggie’s 2019

Cyhoeddi llyfr ar hanes y Tabernacl, Hendy-gwyn

Rasys Her Noddedig 10k,5k a 2.5k Gwanwyn 2019

 

3.3 aros am wybodaeth bellach cyn ystyried y cais gan Sioe Laeth Cymru 2019.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau