Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 14EG RHAGFYR, 2017 pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2017 yn gofnod cywir.

 

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ynghylch cais am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd ei asesu ar sail ei gyfraniad at amcanion strategol yr Awdurdod o ran Twristiaeth, Cymunedau a'r Economi. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau, yn amodol ar y telerau a'r amodau a bennwyd ym meini prawf y gronfa:-

 

Digwyddiad                                                                            Dyfarniad

wythnos digwyddiadau Dydd G?yl Dewi Rhydaman 2018                      £510.00

 

4.

CRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU 2018-2019 pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo newidiadau er mwyn gwella effeithlonrwydd y Cynllun Cymorth Digwyddiadau, a gefnogodd un deg chwech o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn ariannol 2017/2018, a oedd wedi gwneud cyfraniad economaidd amcangyfrifedig o £1.1 miliwn.

 

Ar ôl adolygu'r system ddarparu ar gyfer 2017/18, daeth yn amlwg fod angen synergedd gwell o ran Ymgyrchoedd Twristiaeth Cymru (e.e. Blwyddyn y Môr 2018 a Blwyddyn Darganfod 2019) yn ogystal ag ymgyrchoedd Sir Gaerfyrddin fel Tref a Phentref Diwylliant a Beicio. Newidiwyd y meini prawf a'r nodau i adlewyrchu hyn, a byddai partïon sydd â diddordeb yn cael eu hysbysu am y newidiadau hyn ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo.

 

Byddai angen rhoi cyfres o gamau hyrwyddo effeithiol ar waith er mwyn cynnwys rhagor o ddigwyddiadau posibl, wrth i ni geisio ehangu'r portffolio gyda'r bwriad o ddarparu mwy o weithgareddau yn ystod y misoedd tawel.  Credir y byddai'n fuddiol i gynnwys amodau ychwanegol penodol yn y llythyr cynnig fesul digwyddiad, yn dibynnu ar yr amcanion perthnasol e.e. darparu llety i dwristiaid ar gyfer digwyddiadau mwy, defnyddio hashnodau penodol megis diwylliant neu feicio.

 

Mae system 2017/18 lle cyflwynir ceisiadau i gyfarfodydd misol yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, wedi sicrhau cyfle rheolaidd penodedig, ond credwyd y gellid gwerthuso ac ystyried ceisiadau yn well pe byddai swyddogion yn adolygu ac yn gwerthuso bob chwarter. Byddai hyn yn sicrhau y dyrennir arian yn well drwy gydol y flwyddyn.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adolygu'r isafswm a'r uchafswm o ran y symiau a roddir, ac a fyddai nodau strategol yn cael eu cyflawni drwy geisio rhoi symiau llai i nifer o ddigwyddiadau neu symiau llawer mwy i lai o ddigwyddiadau.  Barnwyd, fodd bynnag, fod y meini prawf presennol yn caniatáu digon o hyblygrwydd i'r Awdurdod ddadansoddi a chefnogi (os cytunir) amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gwyliau, newydd a hen, a hynny mewn modd effeithiol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau i feini prawf y Gronfa Cymorth Digwyddiadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19, yn unol â'r adroddiad.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau