Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 2 MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 2 Mawrth 2018 yn gofnod cywir.

 

3.

TALIADAU HAMDDEN 2018-19 pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i grynhoad o'r taliadau hamdden arfaethedig ar gyfer 2018-19 a oedd yn cynnwys mân newidiadau yn sgil adborth o gyfarfod y Pwyllgor Craffu - Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2017, fel cyflwyno tocyn 5-7 diwrnod ar gyfer y parciau gwledig a fyddai'n addas ar gyfer twristiaid. Roedd yr adroddiad yn cynnwys taliadau am y canlynol:-

·         Gwasanaethau Diwylliannol (Lleoliadau'r Celfyddydau a'r Theatr);

·         Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (canolfannau hamdden a phyllau nofio);

·         Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm, a maes parcio Traeth Pentywyn; Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r crynhoad o Daliadau Hamdden ar gyfer 2018-19.

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI

CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R

BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL

I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O

ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I

NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

MAES ARLWYO YM MHARC GWLEDIG PEN-BRE

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a amlinellai'r angen i ffurfioli'r trefniadau arlwyo ym Mharc Gwledig Pen-bre ar gyfer haf eleni, tra bod yr Awdurdod yn datblygu caffi / bwyty newydd ar y safle nad oedd disgwyl iddo fod yn weithredol tan ddiwedd 2018 / dechrau 2019, ac o hynny ymlaen byddai'n cael ei reoli a'i weithredu'n fewnol. Ar ôl ymgynghori ag adrannau mewnol, cynigiwyd y dylid cynnig tenantiaeth 6 mis sy'n seiliedig ar gontract i'r tenant presennol (1 Ebrill tan ddiwedd mis Medi 2018), yn amodol ar gytuno ar y telerau.

 

PENDERFYNWYD cynnig tenantiaeth 6-12 mis arall sy'n seiliedig ar gontract i'r tenant presennol, yn amodol ar gytuno ar y telerau.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau