Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 19 MEDI 2018 PDF 83 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2018, gan ei fod yn gywir.
|
|
CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU PDF 205 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi manylion ynghylch cais am gymorth o’r Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd ei asesu ar sail ei gyfraniad at amcanion strategol yr Awdurdod o ran Twristiaeth, Cymunedau a’r Economi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais canlynol am gymorth o’r Gronfa Cymorth Digwyddiadau, yn amodol ar y telerau a’r amodau a nodwyd yn y meini prawf ar gyfer y gronfa:-
Digwyddiad Swm
Treialon C?n Defaid 2019 £2,000
|
|
TALIADAU HAMDDEN 2019-20 PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried crynhoad o ffioedd hamdden arfaethedig ar gyfer 2019-20. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y ffioedd am y canlynol:
· Gwasanaethau diwylliannol (canolfannau’r celfyddydau a theatrau) · Lleoliadau chwaraeon a hamdden (canolfannau hamdden a phyllau nofio) · Hamdden awyr agored (parciau gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm, maes parcio Traeth Pentywyn a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn).
Yn ystod y cyfarfod, cyfeiriodd Pennaeth Hamdden at y newidiadau canlynol yr awgrymwyd y dylid eu gwneud i’r adroddiad ar ôl ei gyhoeddi:
· Tocyn Tymor Parc Gwledig Pen-bre – tâl o £55 y flwyddyn yn lle £53 y flwyddyn a £50 yn lle £47.50 am adnewyddu tocyn. · Y maes parcio y tu allan i Barc Gwledig Pen-bre – cael gwared â’r tâl o £1.10 am 1 awr a chodi £2 am hyd at ddwy awr.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r crynhoad o Ffioedd Hamdden am 2019-20 fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar y newidiadau uchod.
|