Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 13 EBRILL 2018 PDF 124 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 13 Ebrill yn gofnod cywir.
|
|||||||
CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU. PDF 203 KB Cofnodion: Sylwer: Roedd y Cynghorydd P. Hughes Griffiths wedi datgan buddiant personol yn nigwyddiad G?yl Canol y Dre 2018.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi manylion am gais am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd ei asesu ar sail ei gyfraniad at amcanion strategol yr Awdurdod o ran Twristiaeth, Cymunedau a'r Economi.
PENDERFYNWYD:
3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau yn amodol ar y telerau a'r amodau a bennwyd ym meini prawf y gronfa:-
Digwyddiad Dyfarniad Parti Gardd Ffug Faer Llansteffan 2018 £400 G?yl Afon a Regata Caerfyrddin 2018 £500 Carnifal Pen-bre a Phorth Tywyn 2018 £1,000 Ras Feicio Ieuenctid Genedlaethol Pen-bre 2018 £1,200 Ras Feicio er cof am Robert Hobbs 2018 £522 Agor y Gylchffordd Gaeedig Genedlaethol £390 G?yl Feicio Taith Prydain 2018 £390 G?yl Hwyl Cwmaman 2018 £600 Sioe Clwb Hen Beiriannau Dyffryn Tywi 2018 £900 Dathlu 150 o flynyddoedd ers i reilffordd Calon Cymru gael ei hagor, Llanymddyfri £500* G?yl Hanes Cymru i Blant 2018 £600 Laugharneival 2018 £1,600 G?yl Canol y Dre 2018 gohiriwyd Sioe Laeth Cymru 2018 £2,000
[*Uchafswm tuag at farchnata a hyrwyddo ac yn amodol ar gyflwyno'r costau hynny]
3.2 gwrthod y cais gan Gritfest 2018 am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau am y rheswm mai ychydig iawn o fudd y byddai'n ei roi i sector twristiaeth yr Awdurdod ac mai cynnig masnachol yn unig oedd hwn a oedd â llawer o risg.
3.3 gohirio ystyried cais G?yl Canol y Dre 2018 tan fis Mehefin 2018 er mwyn cynnal trafodaethau â Phrif Weithredwr Menter Iaith Myrddin a'r Cyfarwyddwr Addysg.
|