Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 18 MEHEFIN 2018 pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 18 Mehefin, 2018 yn gofnod cywir.

 

3.

HAWL DRAMWY GYHOEDDUS - CARDI BACH, WARD LLANBOIDY pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i wneud Gorchymyn i gofrestru hawl dramwy gyhoeddus nad oedd wedi'i chofnodi'n flaenorol yng Nghardi Bach, Ward Llanboidy, drwy ei hychwanegu at y Map a'r Datganiad Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Dywedwyd bod gan y Cyngor Sir ddyletswydd statudol i sicrhau bod y Map a'r Datganiad Diffiniol ar gyfer y Sir yn gywir, fel sy'n ofynnol o dan adran 53(2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Nodwyd bod Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd bellach wedi ymateb i'r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD bod y cais yn cael ei gymeradwyo a bod yr Awdurdod yn gwneud y Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol angenrheidiol.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau