Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 14eg Rhagfyr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

There were no declarations of personal interest.

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 24AIN HYDREF 2017 pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 24 Hydref, 2017 yn gofnod cywir.

 

 

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU RHAGFYR 2017 pdf eicon PDF 201 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth gan y Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd eu hasesu ar sail eu cyfraniad at amcanion strategol y Cyngor o ran twristiaeth, cymunedau a'r economi. Rhoddodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau ragor o wybodaeth am bob digwyddiad.

 

O ran cais "Wythnos Gymraeg" Tref Caerfyrddin dywedodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau fod cymorth wedi'i roi yn y blynyddoedd blaenorol i'r digwyddiad hwn ac argymhellwyd bod cymorth yn cael ei roi eto yn 2018.  Fodd bynnag, dywedwyd y dylai ceisiadau ar gyfer y digwyddiad hwn yn y dyfodol ymdrechu i gynnwys cyfleoedd ychwanegol i dyfu'r digwyddiad i fod yn ddigwyddiad sirol ar gyfer y gynulleidfa ehangach.  Awgrymwyd y gellid cyflawni hyn drwy ddefnyddio'r Cylch Rhwydwaith Digwyddiadau a thrwy geisio incwm gan noddwr masnachol lleol a fyddai'n galluogi'r digwyddiad i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau wrth y Bwrdd Gweithredol y byddai'r meini prawf cymhwyso newydd, a fyddai'n cynnwys themâu allweddol ar gyfer 2018/19 a dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, yn cael eu darparu i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD

3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a bennwyd ym meini prawf y gronfa:-

Digwyddiad                                                                            Dyfarniad

 

Blwyddyn Ariannol 2017/18:-

·         "Wythnos Gymraeg" Tref Caerfyrddin             £2000.00

 

Blwyddyn Ariannol 2018/19:-

·         Ras Beicio Mynydd Battle on the Beach 2018 £2000.00