Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 17eg Gorffennaf, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 22 MEHEFIN 2017 pdf eicon PDF 286 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 22 Mehefin 2017 yn gofnod cywir.

 

 

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU pdf eicon PDF 279 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth gan y Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd eu hasesu ar sail eu cyfraniad at amcanion strategol y Cyngor o ran Twristiaeth, Cymunedau a'r Economi. Rhoddodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau ragor o wybodaeth am bob digwyddiad.

 

PENDERFYNWYD

3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a bennwyd ym meini prawf y gronfa:-

Digwyddiad                                                                         Dyfarniad

Chwedlau Caerfyrddin                                                            £500.00

G?yl y Synhwyrau Llandeilo 2017                                         £1,500.00

Big Cwtch 2017                                                                      £2,500.00

 

3.2  peidio â chymeradwyo'r cais mewn perthynas â Gar G?yl 2017 y tro hwn.