Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Swyddfa'r ABG Amgylchedd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 22AIN TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 285 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniad o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

3.

MESURAU FERTIGOL ARFAETHEDIG - HEOL PENTRE-POETH pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion y Cyngor i gyflwyno mesurau cyflymder fertigol ar hyd Heol Pentre-poeth, Llanelli, fel y manylir yn y cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a nododd nad oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law gan breswylwyr sy'n byw ar Heol Pentre-poeth, ond bod dau wrthwynebiad wedi dod i law gan breswylwyr sy'n byw gerllaw yn dilyn ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch y cynigion.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ddau wrthwynebiad a ddaeth i law, ymatebion y swyddogion i'r rhain ynghyd â'r ddau opsiwn a gynigir ynghylch y cynigion, eu manteision a'u hanfanteision.

 

PENDERFYNWYD bod y gwrthwynebiadau a ddaeth i law o ran cynnig y Cyngor i gyflwyno mesurau fertigol ar Heol Pentre-poeth, Llanelli, yn cael eu nodi, ond bod y Cyngor yn bwrw ymlaen ag Opsiwn 1 i'w cyflwyno.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau