Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 19 GORFENNAFF 2019 pdf eicon PDF 328 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau cyfarfod yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir.

 

 

3.

SHOPMOBILITY CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 323 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad i gynorthwyo Shopmobility Caerfyrddin drwy grant pellach o £14,650 am gyfnod o 12 mis gan gychwyn ym mis Medi 2019. Esboniwyd, er bod Shopmobility wedi cael cymorth gan y Cyngor ers 2011 a’i fod yn cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian, ei fod yn dibynnu’n bennaf ar gymorth ariannol gan y Cyngor. Nodwyd bod Shopmobility yn un o’r nifer o fentrau sy’n cael eu hannog gan yr Awdurdod i gefnogi’r dref a’i bod yn gyson â’r blaenoriaethau yn ei Strategaeth Barcio.

 

PENDERFYNWYD cynorthwyo Shopmobility Caerfyrddin drwy grant o £14,650 am 12 mis arall gan gychwyn ym mis Medi 2019 yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad.

 

 

4.

SHOPMOBILITY LLANELLI pdf eicon PDF 311 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad i gynorthwyo Shopmobility Llanelli drwy grant pellach o £14,650 am flwyddyn ariannol 2019/20 gan gychwyn ar 31 Gorffennaf 2019. Esboniwyd, er bod Shopmobility wedi cael cymorth gan y Cyngor ers 2011 a’i fod yn cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian, ei fod yn dibynnu’n bennaf ar gymorth ariannol gan y Cyngor. Nodwyd bod Shopmobility yn un o’r nifer o fentrau sy’n cael eu hannog gan yr Awdurdod i gefnogi’r dref a’i bod yn gyson â’r blaenoriaethau yn ei Strategaeth Barcio.

 

PENDERFYNWYD cynorthwyo Shopmobility Llanelli drwy grant pellach o £14,650 am flwyddyn ariannol 2019/20 gan gychwyn ar 31 Gorffennaf 2019.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau