Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 12 CHWEFROR, 2019 PDF 100 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
ADOLYGIAD O ORIAU AGOR CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS YN LLANSTEFFAN A PHENTYWYN PDF 193 KB Cofnodion:
Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys cynigion i newid oriau agor y cyfleusterau cyhoeddus yn Llansteffan a Phentywyn (Springwell) i ddau ddeg pedwar awr. Rhagwelwyd y byddai'r gost gymharol fawr o weithredu cyfleusterau cyhoeddus Llansteffan yn lleihau'n sylweddol drwy waredu'r angen am agor a chloi'r safle yn ddyddiol ac hefyd byddai ymwelwyr â'r lleoliad hwn, sy'n boblogaidd ymysg twristiaid, hefyd yn cael budd o gyfleusterau heb gyfyngiad. Roedd yr un rhesymau hefyd yn berthnasol i agor cyfleusterau cyhoeddus Pentywyn (Springwell) dros dro. Byddai'r cynigion yn lleihau costau presennol y gwasanaeth glanhau a chynnal a chadw tiroedd oddeutu £12,500.00
PENDERFYNWYD, yng ngoleuni'r gwasgfeydd ariannol ac yn amodol ar barhau i archwilio opsiynau eraill, fod cyfleusterau cyhoeddus Llansteffan ar gael ddau ddeg pedwar awr yn unol â'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad, ac am yr un rheswm, bod cyfleusterau cyhoeddus Pentywyn (Springwell) yn ailagor dros dro ac ar gael yn yr un modd.
|