Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 26ain Mawrth, 2019 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 12 CHWEFROR, 2019 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

3.

ADOLYGIAD O ORIAU AGOR CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS YN LLANSTEFFAN A PHENTYWYN pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys cynigion i newid oriau agor y cyfleusterau cyhoeddus yn Llansteffan a Phentywyn (Springwell) i ddau ddeg pedwar awr. Rhagwelwyd y byddai'r gost gymharol fawr o weithredu cyfleusterau cyhoeddus Llansteffan yn lleihau'n sylweddol drwy waredu'r angen am agor a chloi'r safle yn ddyddiol ac hefyd byddai ymwelwyr â'r lleoliad hwn, sy'n boblogaidd ymysg twristiaid, hefyd yn cael budd o gyfleusterau heb gyfyngiad. Roedd yr un rhesymau hefyd yn berthnasol i agor cyfleusterau cyhoeddus Pentywyn (Springwell) dros dro. Byddai'r cynigion yn lleihau costau presennol y gwasanaeth glanhau a chynnal a chadw tiroedd oddeutu £12,500.00

 

PENDERFYNWYD, yng ngoleuni'r gwasgfeydd ariannol ac yn amodol ar barhau i archwilio opsiynau eraill, fod cyfleusterau cyhoeddus Llansteffan ar gael ddau ddeg pedwar awr yn unol â'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad, ac am yr un rheswm, bod cyfleusterau cyhoeddus Pentywyn (Springwell) yn ailagor dros dro ac ar gael yn yr un modd.