Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANAU PERSONNOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

I ARWYDDO COFNOD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 12EG O ORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2018 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

3.

GWRTHWYNEBIADAU I GYFYNGIADAU AR AROS A PHARCIO AR Y STRYD - (LLANELLI) (AMRYWIAD 33) - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar gynigion i wneud Gorchymyn yn amrywio cyfyngiadau ar aros a pharcio ar y stryd (Llanelli) (Amrywiad 33).

Rhoddwyd gwybod yn dilyn ymgynghori cychwynnol ynghylch y cynigion â'r ymgyngoreion statudol, fod wyth gwrthwynebiad/sylw a deiseb yn erbyn y cynigion a hysbysebwyd wedi dod i law, fel y manylwyd yn Atodiad 3 (Gwrthwynebiadau a Sylwadau) yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt. Argymhellwyd bwrw ati â'r cynigion, fel y manylwyd yn Atodiad 1 (Hysbysiad Cyhoeddus) ac Atodiad 2 (Cynlluniau), a rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr am hynny.

PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau/sylwadau a ddaeth i law mewn perthynas ag amrywio'r cyfyngiadau ar aros a pharcio ar y stryd mewn amrywiol leoliadau, fel y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn amodol ar y newidiadau y manylwyd arnynt yn adran 3.2, ond bod y Gorchmynion yn cael eu cadarnhau a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau