Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
SHOPMOBILITY CAERFYRDDIN PDF 182 KB Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Caerfyrddin drwy grant pellach o £14,650 am gyfnod o 12 mis gan gychwyn ym mis Medi 2018. Esboniwyd bod Shopmobility yn un o brif flaenoriaethau Strategaeth Barcio Integredig y Cyngor a'i fod wedi cael ei gefnogi gan y Cyngor ers 2011. Roedd y trefniadau cyllido presennol i fod i ddod i ben eleni. Nodwyd er bod y Gr?p yn cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian, ei fod yn dibynnu'n bennaf ar gymorth ariannol gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD rhoi grant pellach o £14,650 i gynorthwyo Shopmobility Caerfyrddin am gyfnod o 12 mis arall, gan gychwyn ym mis Medi 2018, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad. |
|
SHOPMOBILITY LLANELLI PDF 176 KB Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Llanelli drwy grant pellach o £14,650 ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 gan gychwyn ar 31 Gorffennaf 2018. Pwysleisiwyd bod Shopmobility yn un o brif flaenoriaethau Strategaeth Barcio Integredig y Cyngor a'i fod wedi cael ei gefnogi gan y Cyngor ers 2011. Roedd y trefniadau cyllido presennol i fod i ddod i ben eleni. Nodwyd er bod y Gr?p yn cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian, ei fod yn dibynnu'n bennaf ar gymorth ariannol gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD cynorthwyo Shopmobility Llanelli drwy grant pellach o £14,650 ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19, gan gychwyn ar 31 Gorffennaf 2018. |
|
CYNLLUN I ARAFU TRAFFIG - GARREGLWYD, PEN-BRE PDF 493 KB Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch cynigion gan yr Awdurdod yn sgil cais gan Persimmon Homes am gyflwyno System Blaenoriaeth Ildio ger Garreglwyd, Pen-bre oherwydd bod y briffordd gyhoeddus bresennol yn gul o brif ffordd yr A484 i Ystad Dai Garreglwyd ac nad yw'n ddigon llydan i ddarparu ar gyfer troedffordd i gerddwyr a chynnal llif dwy ffordd i gerbydau. Byddai'r cynnig, petai'n cael ei fabwysiadu, yn hwyluso llif y traffig yn ddiogel drwy'r rhan gul o'r ffordd gan roi blaenoriaeth i gerbydau sy'n teithio tua'r gogledd er mwyn diogelu'r Rhwydwaith Priffyrdd Strategol, a byddai cost hynny yn cael ei thalu gan y datblygwr o dan Gytundeb Adran 278.
Dywedwyd yn sgil cyhoeddi'r cynnig, nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law oddi wrth yr ymgyngoreion statudol. Fodd bynnag, roedd 10 gwrthwynebiad ysgrifenedig wedi dod i law, fel y nodwyd yn yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog.
PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law ynghylch y cynnig i gyflwyno System Blaenoriaeth Ildio ger Garreglwyd, Pen-bre, ond bod y Gorchymyn yn cael ei gyflwyno er budd diogelwch ffyrdd cyffredinol i hwyluso darparu troedffordd ddiogel o brif ffordd yr A484 i ystad Garreglwyd a rheoli llif y traffig yn ddiogel drwy'r rhan gul o'r ffordd. |
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7FED MEHEFIN, 2018 PDF 99 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau Cyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2018 gan ei fod yn gofnod cywir. |