Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 19eg Gorffennaf, 2019 9.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 10 MAI 2019 pdf eicon PDF 313 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 10 Mai, 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

 

3.

CAU'R BRIFFORDD GYHOEDDUS GER FFYNNON-DDRAIN, LLANLLWNI pdf eicon PDF 253 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynnig i gau yn ffurfiol darn o'r briffordd gyhoeddus nad yw'n cael ei ddefnyddio ger Ffynnon-ddrain, Llanllwni drwy Orchymyn mewn Llys Ynadon o dan Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

 

Yn dilyn cynllun gwella a gyflawnwyd tua 1998, a gafodd ei roi ar waith i wella diogelwch y gyffordd wrth yr A485 yn Abergiar, nodwyd nad yw darn o'r briffordd ger eiddo o'r enw Ffynnon-ddrain bellach yn cael ei ddefnyddio yn sgil y drefn newydd i'r ffordd.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y barnwyd nad oedd y darn o dir dan sylw yn cael ei ddefnyddio fel priffordd ac felly, petai'r gorchymyn cau yn llwyddiannus, byddai'r tir yn cael ei drosglwyddo yn ôl i'r Ffynnon-ddrain, y tirfeddiannwr cyfagos ar gofrestr y Gofrestrfa Tir.

 

Yn ogystal, nodwyd y byddai'r costau sy'n gysylltiedig â'r gorchymyn cau yn cael eu hysgwyddo gan y Cyngor er mwyn rheoleiddio'r sefyllfa bresennol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gorchymyn i gau'r ffordd fel y nodir yn yr adroddiad a rhoi gorchymyn i'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i gau'r darn o'r briffordd yn unol ag Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

 

 

4.

CAIS I YCHWANEGU LLWYBR CEFFYLAU YN LLWYNTEG, LLANNON pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd, yn dilyn derbyn cais am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol ffurfiol ym mis Gorffennaf 2018 i gofrestru hawl dramwy gyhoeddus nad oedd wedi'i chofrestru'n flaenorol, yn ceisio cymeradwyaeth i wneud Map Diffiniol a Datganiad Hawliau Tramwy Cyhoeddus ger Llwynteg, yng Nghymuned Llannon, dan Adran 53 ac Atodlen 14 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981).

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law a'r datganiadau cefnogol a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad.

 

Nodwyd bod y dystiolaeth a oedd ar gael wedi cael ei hadolygu mewn perthynas â'r cais a'i bod yn bodloni'r profion cyfreithiol a nodir yn adran 53 (3) (c) (i) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981), sef bod yr hawl tramwy na ddangosir ar y Datganiad a'r Map Diffiniol yn bodoli neu y gellir honni'n rhesymol ei fod yn dal yn bodoli.

 

Yn ogystal, nodwyd pe byddai'r Gorchymyn yn cael ei gymeradwyo, byddai'n cael ei lunio a'i gyhoeddi am 42 o ddiwrnodau fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf 1981. Byddai cyhoeddi'r Gorchymyn yn rhoi cyfle i sylwadau pellach gael eu cyflwyno i'r Awdurdod, gan roi tystiolaeth yn cefnogi neu'n gwrthwynebu bodolaeth llwybr ceffylau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais a llunio Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol gyda'r diben o ychwanegu Hawl Dramwy Gyhoeddus (Llwybr Ceffylau) heb ei chofnodi yn Llwynteg, Llanllwni at y Map Diffiniol a'r Datganiad ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

 

 

5.

DARPARIAETH CYNHWYSYDD AILGYLCHU pdf eicon PDF 261 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a gyflwynai ffordd o wella perfformiad ailgylchu Sir Gaerfyrddin drwy ddarparu Bagiau Leinio ar gyfer Cadis Gwastraff Bwyd i bob aelwyd.

 

Eglurodd yr adroddiad y byddai darparu bagiau leinio ar gyfer cadis gwastraff bwyd am ddim i bob aelwyd yn cefnogi ymhellach trosglwyddo gwastraff bwyd o'r bagiau du i'r cynllun ailgylchu gwastraff bwyd a fyddai yn ei dro yn:-

 

·        cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y cynllun ailgylchu gwastraff bwyd

·         gwella perfformiad ailgylchu cyffredinol y Cyngor

·         lleihau'r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi, Ynni o Wastraff a chostau triniaeth

·         osgoi dirwyon posibl am fethu cyrraedd targedau ailgylchu

·         gwella'r modd y mae'r gwasanaethau gweithredol yn casglu bwyd gwastraff. 

Mewn dadansoddiad ynghylch bagiau du, sylwyd bod 25.8% o gynnwys y bagiau du yn Sir Gaerfyrddin yn wastraff bwyd ac ar hyn o bryd Sir Gaerfyrddin yw'r unig Awdurdod yng Nghymru nad yw'n darparu bagiau leinio gwastraff bwyd i breswylwyr.

 

Yn ogystal, nodwyd bod cerbydau y Gwasanaethau Gwastraff yn wynebu diffygion mecanyddol o ran y lle a ddarperir yn y cerbyd ar gyfer bwyd, roedd hyn yn arwain at achosion o gerbydau'n torri i lawr o ganlyniad i fwyd yn cronni yn y mecanwaith codi gan fod y bwyd sy'n rhydd yn y cadis bwyd yn gorlifo. Roedd gwybodaeth gan Awdurdodau eraill yn awgrymu bod cadw bwyd mewn bagiau leinio yn lleihau'r broblem hon yn sylweddol, gan wella effeithlonrwydd y casgliad a lleihau achosion o gerbydau yn torri i lawr.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai costau amcangyfrifedig o ran darparu bagiau leinio gwastraff bwyd i'r holl aelwydydd oddeutu £215,000 a oedd yn ddibynnol ar broses gaffael a byddent yn cael eu hariannu o adnoddau adrannol. Yn ogystal, efallai y bydd cynnydd bychan o ran costau dosbarthu cynhwysydd gan y byddai'n cymryd mwy o amser i ddosbarthu dau gynhwysydd ar wahân. Fodd bynnag, byddai'r costau dosbarthu eisoes yn cael eu hysgwyddo wrth ddosbarthu bagiau ailgylchu glas i aelwydydd.

 

Er mwyn cefnogi trosglwyddo gwastraff bwyd o'r bagiau du i'r cynllun ailgylchu gwastraff bwyd a gwella'r perfformiad ailgylchu cyffredinol, cynigwyd dosbarthu bagiau leinio gwastraff bwyd i'r holl breswylwyr ar yr un adeg â'r rhaglen dosbarthu bagiau ailgylchu glas.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo darparu Biniau Leinio ar gyfer Cadis Gwastraff Bwyd i bob aelwyd yn Sir Gaerfyrddin a'u dosbarthu'r un pryd â'r dosbarthiad bagiau glas blynyddol.

 

 

6.

CYFARWYDDYD I GERBYDAU AR GYFER MYNEDIAD I GANOLFANNAU AILGYLCHU - NEWID POLISI pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnig newidiadau i bolisi Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref o ran ehangu'r mathau o gerbydau sy'n cael mynediad, gan ehangu ar yr ystod o gerbydau a threlars sy'n gallu cael mynediad gyda hawlen neu heb un. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi, yn dilyn gweithredu polisi presennol y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac yn dilyn sylwadau gan y cyhoedd, bod angen gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod trigolion Sir Gaerfyrddin yn gallu gwneud defnydd llawn o'r safleoedd i waredu eu gwastraff domestig.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y newidiadau a amlinellir yn yr adroddiad ac a arddangosir yn y 'Canllawiau ar y math o gerbydau sy'n cael mynediad i ganolfannau ailgylchu' diwygiedig sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1.

 

Nodwyd y byddai'r newidiadau yn golygu y byddai mwy o drigolion yn gallu cael mynediad i'r safleoedd er mwyn cael gwared ar wastraff eu cartref, megis gwastraff gardd ac eitemau swmpus y cartref. Yn ogystal, mae'r gwelliannau yn caniatáu ystod ehangach o gerbydau ac yn cynyddu'r cyfle i ddefnyddio trelars ar gyfer cludiant a allai gyfrannu ymhellach at y deunydd ailgylchu domestig sy'n cael ei waredu yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a gallai cynorthwyo'r Awdurdod i gyrraedd y targed ailgylchu statudol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer eleni (2019-2020), sef 64%.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau i'r dosbarthiadau o ran math o gerbydau modur a threlars a nodwyd yn Atodiad 1 mewn perthynas â mynediad i'r pedwar safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref.