Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||
GORCHMYNION TRAFFIG PARC ARFORDIROL Y MILENIWM PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi cynigion i gyflwyno gwaharddiad o ran aros ar unrhyw adeg, ynghyd â Gorchmynion Parcio Oddi ar y Stryd yn y lleoliadau canlynol ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, fel y nodir yn atodiad 1 yr adroddiad, er mwyn hwyluso llif y traffig a sicrhau parcio trefnus yn y lleoliadau canlynol:- a) Heol y Ffatri, Parc Gwledig Pen-bre, b) Y ffordd sy'n arwain i'r maes parcio, ger Parc Carafanau Shoreline, Pen-bre c) Ffordd fynediad i faes parcio Meysydd G?yl, Llanelli, d) Ffordd fynediad o Ffordd Gyswllt Porth Tywyn i'r maes parcio. Rhoddwyd gwybod yn dilyn ymgynghori cychwynnol ynghylch y cynigion â'r ymgyngoreion statudol, fod pedwar gwrthwynebiad/sylwadau wedi dod i law, fel y manylwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt. Argymhellwyd bwrw ati â'r cynigion, fel y manylwyd yn Atodiad 1, a rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr am hynny. PENDERFYNWYD
|
|||||
HYSBYSIAD AM BENDERFYNIAD - 9FED MAWRTH, 2018 PDF 100 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|||||
HYSBYSIAD AM BENDERFYNIAD - 26AIN MAWRTH, 2018 PDF 74 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2018 gan ei fod yn gofnod cywir.
|