Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 29ain Tachwedd, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Swyddfa'r ABG Amgylchedd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 19 MEDI 2019 pdf eicon PDF 305 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 19 Medi 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

 

3.

CAU PRIFFORDD GYHOEDDUS DDIANGEN SY'N ARWAIN AT HEN BONT GALLT-Y-BERE, RHANDIR-MWYN pdf eicon PDF 321 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn manylu ar gynnig i gau'n ffurfiol lwybr nad oedd yn cael ei ddefnyddio oherwydd bod yr hen lwybr dros y bont a'r priffyrdd cysylltiedig yn ddiangen yn sgil adeiladu Pont newydd Gallt-Y-Bere.

 

Nodwyd bod y tirfeddianwyr cyfagos yn ymwybodol o'r cynnig ac y byddai ymgynghori ymhellach yn digwydd â'r holl dirfeddiannwr sy'n ffinio â'r ardaloedd i'w cau fel rhan o'r broses gyfreithiol statudol.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr ardal i'w chau wedi'i hamlinellu'n goch o fewn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gorchymyn i gau'r ffordd fel y nodir yn yr adroddiad a rhoi gorchymyn i'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i gau'r darn o'r briffordd yn unol ag Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

 

 

4.

CYFYNGIAD AR WASTRAFF GWEDDILLIOL O YMYL Y FFORDD pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn cynnig newidiadau i'r polisi Cyfyngiad ar Wastraff Gweddilliol o Ymyl y Ffordd. 

 

Roedd y polisi diwygiedig yn rhoi eglurhad ynghylch maint y bagiau a dderbynnir wrth ymyl y ffordd, manylu ar y trefniadau ar gyfer ymdrin â galwadau yn ôl o ran rhoi gwastraff allan ar ôl 6am ar ddiwrnod y casgliad, a hefyd y trefniadau ar gyfer casgliadau gwastraff ychwanegol yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

 

PENDERFYNWYD bod y newidiadau arfaethedig i'r polisi cyfyngiadau o ran gwastraff gweddilliol o ymyl y ffordd yn cael eu cymeradwyo.